Gwylnos yng Nghaerdydd

12/01/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion

Gwylnos yng Nghaerdydd

Daeth dros 1,000 ynghyd o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd neithiwr i gynnal gwylnos i gofio'r bobl a fu farw yn ystod yr ymosodiadau ar swyddfa cylchgrawn Charlie Hebdo ac ar archfarchnad kosher ym Mharis yr wythnos diwethaf. 

 

Yn y digwyddiad, cafwyd munud o dawelwch, gyda chanhwyllau'n cael eu cynnau i gofio’r rhai a gafodd eu lladd a'u hanafu yn Ffrainc.

 

Cafodd yr wylnos ei threfnu ar y cyfryngau cymdeithasol gan Ffrancwyr Caerdydd. Ymhlith y bobl a fynychodd oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. 

 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones cyn y digwyddiad, "Bydd yn gyfle i ddangos ein bod yn sefyll mewn undod gyda phobl Ffrainc a phawb sy'n credu mewn sicrhau ein gwerthoedd ac egwyddorion democrataidd sy'n cael eu bygwth gan weithredoedd terfysgol o'r fath."

 

Bu farw 17 o bobol dros gyfnod o dridiau mewn cyfres o ymosodiadau brawychus ar draws dinas Paris yr wythnos diwethaf.

 

Dyma ddetholiad  o'r negeseuon a gafodd eu trydar o'r Wylnos: