Detholiad o Goed Nadolig
Categori: Hamdden

Daeth y traddodiad o addurno coeden Nadolig i Brydain trwy'r Tywysog Albert oedd yn ŵr i frenhines Fictoria. Roedd Albert yn hanu o'r Almaen ac yn perthyn i deulu brenhinol Saxe-Coburg sydd â chysylltiadau clos gyda theulu Windsor. Roedd y traddodiad o osod coeden Nadolig yn yr Almaen yn arfer poblogaidd yng ngogledd y wlad lle roedd yn gysylltiedig gyda arferion protestanaidd.
Ym Mhrydain, cofleidiodd y dosbarth canol yr arferiad yn oes Fictoria ac fe ddaeth yn draddodiad tu hwnt o boblogaidd. Erbyn heddiw, mae'r goeden yn ganolog i ddathliadau llawer o deuluoedd dros y byd, yn cynnwys Cymru. A dyma ni isod gynnig anrhydeddus sawl aelwyd yng Nghymru o'r goeden Nadolig. Oes gennych chi ffefryn o blith y rhain? Oes gennych chi goeden yn eich tŷ chi sy'n well?
Rydym yn rhoi cyfle i chi ennill £50.00 a choeden Nadolig newydd ar gyfer 2015. Tagiwch eich llun gyda @lleoldotcymru a #coedendolig ar Trydar.