Y Gwyll, Rhys Ifans a llawer mwy ar S4C dros y 'Dolig

15/12/2014

Categori: Celfyddydau, Hamdden

Y Gwyll yn ôl ar ddydd Calan

Bydd DCI Tom Mathias a’r tîm yn ôl yn y gyfres dditectif Y Gwyll ar S4C i archwilio achos o dân bwriadol yn ogystal â stori am dor calon a cholled wrth inni ddarganfod mwy am fywyd a hanes y ditectif. Fe fydd y bennod arbennig yn sicr yn flas o’r hyn sydd i ddod yn yr ail gyfres yn hwyrach yn y flwyddyn.


Bydd rhifyn arbennig hir-ddisgwyliedig o gyfres Y Gwyll ar Ddydd Calan ar S4C yn un o uchafbwyntiau amserlen Nadolig sy’n llawn perfformiadau gwreiddiol, gafaelgar gan rai o sêr mwyaf y byd adloniant yng Nghymru.

 

Bydd Richard Harrington, sy'n chwarae rhan DCI Mathias yn y gyfres dditectif, yn un o blith nifer o artistiaid byd-enwog ar y sianel dros yr ŵyl, gyda Rhys Ifans, Charlotte Church, Bryn Terfel, Wynne Evans, Only Men Aloud, Karl Jenkins a Catrin Finch ymhlith y sêr rhyngwladol eraill sy'n rhan o arlwy'r sianel dros yr ŵyl.

 

Heddiw, lansiodd S4C ei hamserlen Nadolig, wedi ei lapio â dramâu, perfformiadau penigamp mewn rhaglenni adloniant a cherddoriaeth, rhaglenni dogfen am bobl eithriadol, chwaraeon yr ŵyl ac oriau o raglenni safonol i blant a phobl ifanc.

 

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae'r Nadolig yn adeg gystadleuol iawn o'r flwyddyn ar y teledu, ond mae gennym amserlen all herio’r gorau sy’n rhoi llwyfan i rai o dalentau mwyaf ein gwlad greadigol ni.

 

"Un o’r uchafbwyntiau mwyaf yw’r darllediad cyntaf o bennod newydd Y Gwyll ar Ddydd Calan, rhaglen sy’n helpu i roi S4C a Chymru ar y map. A gyda S4C yn awr ar gael ar gynifer o blatfformau, gan gynnwys y BBC iPlayer, bydd modd i chi fwynhau'r rhaglen ble bynnag y byddwch chi yn y Deyrnas Unedig ar 1 Ionawr.

 

"Ond wrth arwain at y bennod arbennig o’r Gwyll ddydd Calan, bydd rhaglenni’r Nadolig yn cynnig adloniant, drama, chwaraeon a rhaglenni ffeithiol i’w cofio. Gyda sêr rhif y gwlith yn addurno’n hamserlen – bydd hi’n Nadolig disglair ar S4C."

 

Yn arwain yr ymgyrch Nadolig mae Robin Goch S4C, sef robin frongoch eiconig animeiddiedig y sianel yn amlygu amserlen o raglenni cyffrous. Gallwch ei ddilyn ar yr ymgyrch ar-lein ac ar Twitter, @RobinGochS4C ac ar Facebook. Ac os gwelwch robin yn eich gardd neu o gwmpas y lle, ychwanegwch farc ar ein map rhyngweithiol a gorchuddio Cymru gyfan â robins coch!

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net