Rhyddhau degfed sengl prosiect Sywel Nyw

29/10/2021

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Mae Seagal, y degfed sengl gan yr artist Cymraeg Sywel Nyw, yn drac sydd yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth pync, indi ac electronig ac mae’n dathlu Steven Seagal ac ystrydebau’r 80au.

 Cafodd ei greu gan Lewys Wyn (Yr Eira) ac Iolo Selyf (o’r band pync Y Ffug).

 

Yn ystod pob mis o 2021, mae Wyn wedi rhyddhau sengl newydd yn yr iaith Gymraeg o dan yr enw Sywel Nyw, pob un gydag artist blaenllaw o Gymru yn cynnwys (hyd yn hyn) Mark Roberts (un hanner o Catatonia), Gwenllian (o Adwaith), Casi ac Endaf Emlyn, ymysg eraill. Ar ei drac newydd gyda Iolo, eglura Wyn ei bod yn frwdfrydig i greu “cân ymosodol, cân gyda churiad”, un sydd yn cymysgu esthetig pync mwy brwnt Iolo gyda sain mwy indi-electonig a melodaidd Wyn.

 

Mae geiriau Iolo yn cynnig golwg ddigrif ar natur ryfedd amser. Mae’r geiriau 'ti’n edrych fatha Steven Seagal, ti’n symud fatha Steven Seagal’ yn gwrthgyferbynnu'r ddelwedd or-wrywaidd o Seagal o’i ffilmiau antur o’r 80au gyda’r Seagal sydd gennym nawr, wedi heneiddio ac yn cael ei gyfweld o’i gadair freichiau.

 

Ail-ddychmygu

 

Mae’r fideo, a gafodd ei greu gan yr artistiaid o Lundain Wubacub a Billy Bagilhole, yn ail-ddychmygu Seagal mewn sefyllfaoedd rhyfedd, fel mewn gem gyfrifiadurol ac fel cymeriad cartŵn mewn ffilm western.
Cafodd Seagal ei gynhyrchu o adref gan Lewys Wyn, a recordiodd Iolo y llais o’i gartref hefyd. Cafodd yr holl caneuon eu cymysgu gan Tom Loffman.

 

Cafodd Seagal ei gynhyrchu o adref gan Lewys Wyn, a recordiodd Iolo'r llais o’i gartref hefyd. Cafodd yr holl ganeuon eu cymysgu gan Tom Loffman.

 

 

Gwrandewch ar yr holl draciau mae Sywel Nyw wedi rhyddhau hyd yn hyn ar Spotify. Bydd casgliad llawn o’r caneuon yn cael ei ryddhau ar finyl 12” yn 2022 cynnar ar Lwcus T.