Sywel Nyw yn rhyddhau ei nawfed sengl eleni

20/09/2021

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Mae label Lwcus T yn rhyddhau ‘Traeth y Bore’ y nawfed sengl o brosiect senglau misol Sywel Nyw yn 2021.

Gwestai mis Medi yw un o arloeswyr amlycaf Pop amgen Cymraeg, neb llai nac Endaf Emlyn. Mae Endaf wedi rhyddhau rhai o albyms mwyaf dylanwadol yn hanes yr Iaith, sy’n cynnwys Salem, a Hiraeth.

 

Mae ‘Traeth y Bore’, wedi ei chyd-sgwennu gydag Endaf Emlyn yn ystod y cyfnod clo, gyda Lewys ac Endaf yn rhannu demos a syniadau drwy eu setup recordio personol. Mae geiriau’r gân, wedi ei ysgrifennu gan Griff Lynch, gyda chyfeiriadau amlwg at eiriau caneuon yr albwm Hiraeth.

 

Darn gobeithiol

 

Roedd Endaf Emlyn am i gynnwys y darn fod yn obeithiol gyda naws o ryddid ieuenctid. Mae sŵn a chywair y gân yn nodweddiadol o waith Endaf, ac mae hi’n fraint i bawb sy’n ymwneud a phrosiect Sywel Nyw gael enw Endaf ynghlwm a’r gan hon.

 

Bydd ‘Traeth y Bore’ allan ar Ddydd Gwener 24 o Fedi.