Rhys Gwynfor yn rhyddhau sengl newydd

22/07/2021

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Fe fydd yr artist Rhys Gwynfor yn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf Ffredi yfory.

Dyma sengl arall gan yr artist sy'n wreiddiol o Lanrafon ger Corwen, a daw hyn yn dilyn sawl cân fachog yn cynnwys y glasur Bydd Wych ers dechrau rhyddhau cerddoriaeth ar label Recordiau Côsh yn ôl yn 2018. 

 

Mae ‘Ffredi’ yn gân serch tuag at ei gath, sydd wedi cadw cwmni iddo fo a’i bartner, Lisa Angharad, yn eu cartref yng Nghaerdydd ers cwpl o flynyddoedd bellach. 

 

“O'n i'n meddwl bod hi'n hen bryd i'r hen Ffredi gal cân yn ddiolch am ei gyfeillgarwch ac am yr adloniant mae o wedi ei roi i ni dros yr holl lockdowns.”

 

Albym ar y ffordd

 

Mae Rhys yn brysur yn recordio ar hyn o bryd gyda swmp o ganeuon wedi’u eu ‘sgwennu ar gyfer albym, a’r hanes tu ôl i ‘sgwennu hon yn swnio braidd fel ffawd, “Neshi sgwennu alaw y pennillion ar ei noson gynta fo hefo ni pan oddo'n fach fach. Neshi ffeindio voice note ohoni fisoedd wedyn a dechre sgwennu'r gân”

 

Gyda rheolau’n llacio a gigs yn dychwelyd, byddwch yn siwr o cael cyfle i weld Rhys Gwynfor yn fyw yn fuan.