Colli Dave R Edwards

23/06/2021

Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Llifodd yr atgofion a'r teyrngedau dros y cyfryngau cymdeithasol heddiw i David R Edwards o'r band Datblygu a fu farw, yn 56 oed.

Dave Datblygu oedd un o gerddorion mwyaf beiddgar y sin gerddoriaeth amgen yng Nghymru yn ystod y 1980au a'r 1990au.

Sefydlwyd Datblygu yn 1982 gan David R Edwards a T Wyn Davies, bechgyn ysgol o Aberteifi, gyda Pat Morgan yn ymuno yn ddiweddarach. 

 

Siapio'r diwylliant heddiw

 

Cafodd llawer o artistiaid mwyaf y Sin Gerddoriaeth Gymraeg eu hysbrydoli a'u dylanwadu gan dalent a gallu Dave R Edwards yn cynnwys band y Super Furry Animals. Mae Dave yn cael ei ystyried fel artist a siapiodd ein diwylliant poblogaidd heddiw. Fe fydd colled fawr ar ei ôl.

 

Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o'r ymatebion, y teyrngedau a'r atgofion yn dilyn ei farwolaeth.