Cyhoeddi rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn

23/06/2021

Categori: Addysg, Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol y pedwar sy’n cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Cafwyd 28 o geisiadau eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu, a’r rheini a ddaeth i’r brig oedd Jo Heyde o Lundain, Rob Lisle o Sir Gaerfyrddin, Gosia Rutecka o’r Rhondda a David Thomas, sydd hefyd o Sir Gaerfyrddin.

 

Y beirniaid eleni oedd Hannah Thomas o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Shirley Williams, Is-gadeirydd Panel Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd y ddwy yn teimlo fod y safon eleni’n arbennig o uchel.  Cafodd Hannah a Shirley gyfle i sgwrsio gyda phawb yn ddiweddar cyn penderfynu ar y pedwar sy’n cyrraedd y rownd derfynol.

 

Wrth drafod y gystadleuaeth, meddai Shirley Williams, “Roedd safon y gystadleuaeth eleni eto yn uchel dros ben, gyda bron i ddeg ar hugain o ddysgwyr brwdfrydig yn cymryd rhan.  Cawsom gyfle i fwynhau sgwrs gyda phob un ohonynt, gyda phedwar, yn y pen draw, yn cyrraedd y rownd derfynol.  Mae’r pedwar yn gwbl eithriadol ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed mwy o’u hanes yn ystod yr Eisteddfod AmGen.”

 

A phwy felly yw’r pedwar?  Dyma ychydig o’u hanes a’u taith gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Jo Heyde

 

Bedair blynedd yn ôl, fe glywodd Jo Heyde, Llundain y Gymraeg am y tro cyntaf, ac yn Hydref 2018, penderfynodd fynd ati i ddysgu’r iaith ar ôl ymweld â Chymru.  Dechreuodd wrando ar y radio a chefnogi hynny drwy ddarllen llyfrau Cymraeg, ac ar wahân i ddau gwrs undydd, ‘dyw Jo, sy’n gerddor llwyddiannus, heb fynychu unrhyw ddosbarthiadau Cymraeg. 
 
Erbyn hyn, mae’n rhan flaenllaw o fywyd Cymraeg Llundain, yn weithgar gyda Merched y Wawr ac yn aelod brwd o’r Clwb Darllen a’r Cylch Siarad yng Nghanolfan Cymry Llundain.  Mae hefyd wedi dysgu cynganeddu ac wedi cyfansoddi nifer o gerddi caeth. Mae’i hymrwymiad at y Gymraeg yn ysgytwol a’i brwdfrydedd dros yr iaith yn ysbrydoliaeth i bawb o’i chwmpas.

 

Rob Lisle

 

Yn wreiddiol o Abertawe, magwyd Rob Lisle ar aelwyd ddi-gymraeg gan dderbyn ei addysg yn Saesneg.  Ar ôl byw yn Llundain, symudodd Rob, sy’n bensaer, yn ôl i Gymru gan setlo yn ardal Caerfyrddin.  Penderfynodd Rob a’i wraig, Siân, anfon eu plant i ysgol Gymraeg, ac aeth Rob ati i ddysgu’r iaith er mwyn cefnogi’i blant.  Ymunodd â chwrs Cymraeg a daeth yn rhan o nifer o grwpiau lleol. 
Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Rob yn manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r iaith gyda phawb yn ddyddiol.  Mae ganddo ddiddordeb mawr yn yr iaith, ei hanes ac yn niwylliant Cymru.  Mae’n weithgar iawn yn ei gymuned ac yn cynnig cyngor ar bensaernïaeth yn y Gymraeg.  Mae ymroddiad Rob yn ysbrydoliaeth i’w diwtoriaid ac i ddysgwyr eraill.

 

Gosia Rutecka

 

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae Gosia Rutecka wedi ymgartrefu yng Nghwm Rhondda erbyn hyn.  Mae ganddi bump o blant ac ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, newidiodd cyfrwng addysg ei dau blentyn ieuengaf trwy eu symud o ysgol Saesneg i ysgol Gymraeg. 

‘Dyw Gosia heb adael i’r cyfnod clo roi stop ar ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i’r Gymraeg.  Mae hi wedi parhau i fynychu dosbarthiadau ac mae hi hefyd wedi ffurfio grwpiau cefnogi i ddysgwyr eraill, gan drefnu siaradwyr i ddod atyn nhw i drafod hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.  Mae’n rhan flaenllaw o’r gymuned Gymraeg yn ei hardal ac ar hyn o bryd mae’n astudio am radd PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ar gyfleoliadau, gan ysbrydoli pawb o’i chwmpas gyda’i brwdfrydedd dros y Gymraeg.

 

David Thomas

 

O Gaerdydd y daw David Thomas yn wreiddiol, ac mae’n disgrifio’i hun fel un o’r “genhedlaeth goll” na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg.  Ac o’r herwydd roedd yn teimlo bod rhywbeth ar goll o’i fywyd.  Ar ôl gadael Cymru i fynd i’r brifysgol, bu’n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond roedd wastad yn awyddus i symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg.  A chyda’i ŵr, Anthony, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dychwelodd y ddau yma gan brynu tyddyn bach yn ardal Caerfyrddin. 
Yn 2018, penderfynodd David ac Anthony sefydlu distyllfa ar eu fferm, ac erbyn hyn, mae brand Jin Talog yn hynod boblogaidd. Dywed fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd ac mae’n ei defnyddio bob dydd gyda’r iaith yn rhan ganolog o bopeth yn y busnes.

 

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod AmGen, a gynhelir ar draws pob platfform a chyfrwng o 31 Gorffennaf – 7 Awst eleni.  Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod AmGen, ewch i www.eisteddfod.cymru, ac am fwy am waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.