Cynhadledd Bwyd a Lletygarwch Gogledd Cymru yn cael ei gynnal yng Ngholeg Cambria

Daeth arbenigwyr diwydiant at ei gilydd yng Ngholeg Cambria yr wythnos ddiwethaf ar gyfer Cynhadledd Bwyd a Lletygarwch Gogledd Cymru.
Daeth cyflenwyr, cynhyrchwyr a chynrychiolwyr y sector bwyd a lletygarwch at ei gilydd i gael seminar llawn gwybodaeth ac i fwynhau cinio yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy. Manteisiodd y cynrychiolwyr ar gyfleoedd rhwydweithio gwych i hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau lleol.
Trefnwyd y gynhadledd gan Dîm Arlwyo a Lletygarwch Dysgu yn y Gwaith Coleg Cambria, gyda nawdd Prosiect Sgiliau’r Gweithlu, Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE).
Croesawodd Carolyn Preece, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Cambria, y cynrychiolwyr i’r gynhadledd.
Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y dewisiadau ariannu sydd ar gael i fusnesau bychain a chanolig Cymru, gan gynnwys sut i fynd ar gyrsiau prosiectau CGE sy’n weddill.
Dywedodd Carolyn “Rydyn ni’n croesawu cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau bwyd a lletygarwch yma yng Ngogledd Cymru. Mae’r digwyddiad yn hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau lleol ac yn rhoi gwybod i fusnesau am y cyfleoedd cyllido a deddfwriaeth, sy’n newid yn gyson. Cafodd ein rhaglen groeso mawr oherwydd ei bod yn adlewyrchu’r adborth ardderchog a gawsom ni am gynhadledd y llynedd. Mae ein cynrychiolwyr bob amser yn falch o gael gwybod am gyfleoedd ariannu ac am gyflenwyr newydd o gynnyrch lleol ansawdd da.”
Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Helen O’Loughlin, Swyddog Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir y Fflint; Esther Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru; Corinne Lowe Safonau Masnach a Christine Artus a Sandra Blackwell, Cyd-gadeiryddion Cymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint.
Daeth y gynhadledd i ben gyda chinio amheuthun o gynnyrch lleol.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net