Gorymdeithio o Nefyn i Gaernarfon i fynnu datrysiad i’r argyfwng ail gartrefi

25/09/2020

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Bydd bron i 30 o gynghorwyr tref, ymgyrchwyr iaith a phobl leol yn gorymdeithio yfory o Nefyn i Gaernarfon i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i ddatrys yr argyfwng ail gartrefi sy’n bygwth y Gymraeg ym Mhen Llŷn a Chymru wledig yn ehangach.

Galwant ar y Llywodraeth i basio Deddf Eiddo newydd a datganoli Treth Trafodiad Tir i awdurdodau lleol. Wedi cyrraedd Caernarfon, byddant yn ymgynnull wrth bencadlys Cyngor Sir Gwynedd ble bydd rhagor o ymgyrchwyr iaith yn eu cwrdd, ac yn enwebu ardaloedd eraill o Gymru ble mae ail gartrefi yn argyfwng i wneud yr un fath.


Dywedodd Rhys Tudur, cynghorydd tref yn Nefyn: “Rwyf yn hynod siomedig gyda diffyg gweithredu ac ewyllys sydd gan Lywodraeth Cymru i ymafael ag argyfwng ail gartrefi. Nid oes ewyllys gwleidyddol gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd i ddatrys problemau cymunedau yma yng Ngwynedd a Môn, ac mae diffyg gweithredu’r llywodraeth yn dor-calon wrth ystyried bod gormodedd o ail gartrefi mewn cymunedau yn arwain at anghydbwysedd enfawr sy’n niweidio llesiant cenhedlaethau’r dyfodol sy’n methu fforddio byw yn eu bro.

 

“Yn ardal Cyngor Gwynedd y mae’r lefel uchaf yng Nghymru o dai yn cael eu prynu fel ail-gartrefi. Mae adroddiadau diweddar yn nodi fod 40% o’r tai a brynwyd yn ddiweddar wedi cael eu prynu fel ail-gartrefi. Pe byddai modd defnyddio refeniw’r dreth trafodion tir yn fwy effeithiol byddai cyfle i ni yma yng Ngwynedd benderfynu ar y ffordd orau i’w wario er budd ein cymunedau. Byddai datganoli’r dreth tir i Gynghorau Sir yn rhoi cyfle i bobl leol gael penderfynu ar ddyfodol eu cymunedau, gan benderfynu ar lefel y dreth a’i diwygio yn ôl yr angen. Rydym yn gorymdeithio i fynnu bod y Llywodraeth yn nid yn unig cydnabod bodolaeth yr argyfwng yma, ond yn cymryd y camau priodol sydd eu hangen i’w ddatrys.”

 

Bydd cynghorwyr tref ac ymgyrchwyr iaith yn gorymdeithio ar droed, feic ac mewn ceir o amryw o leoliadau ym Mhen Llŷn, gan gynnwys Nefyn, Morfa Nefyn, Llanllyfni a’r Ffôr er mwyn mynnu gweithredu gan y Llywodraeth.

 

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cymryd rhan yn yr orymdaith, fel rhan o’i hymgyrch ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i basio Deddf Eiddo newydd fyddai, yn ôl y grŵp ymgyrchu, yn mynd yn bell o ran datrys yr argyfwng. 

 

Argyfwng brys

 

Dywedodd Elfed Wyn Jones, Cadeirydd y Gymdeithas yng Ngwynedd a Môn: “Mae argyfwng brys o ran gweithrediad y farchnad dai ac eiddo - ac mae cymunedau cyfan yn colli cyfran helaeth o'u cartrefi trwy'r farchnad i ail gartrefi, tai gwyliau fel AirBnB, a thai i bobl gyfoethocach sy'n symud i mewn i ymddeol. Ar hyn o bryd, y farchnad agored sy'n penderfynu popeth a thrin tai fel eiddo masnachol a hyn yn dinistrio cymunedau. Yr ateb brys felly yw galluogi cymunedau i reoli'r farchnad a thrin y stoc tai fel cartrefi i bobl. 
“Rydym felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i basio Deddf Eiddo newydd fyddai yn rhoi grymoedd a chyllid rhesymol i'r awdurdodau lleol reoli'r farchnad dai yn yr ardaloedd hyn. Ymhlith y grymoedd hyn y byddai pwerau dros sefydlu fod angen caniatâd cynllunio i newid defnydd tŷ i fod yn ail gartref neu yn eiddo masnachol i'w osod at wyliau neu AirBnB, a grymoedd dros gynyddu treth (ac atal dulliau osgoi talu) ar eiddo a gaiff ei ddefnyddio at ddibenion felly.
“Mae angen i’r Llywodraeth ymwrthod â’r fframwaith bolisi Thatcheraidd y mae’n gweithredu oddi fewn ar hyn o bryd a gweithredu yn hytrach dros gyfiawnder i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig. Mewn geiriau eraill, mae angen i’r Llywodraeth flaenoriaethu cymunedau, nid cyfalafiaeth.”