Addysgwyr yn galw am ollwng gorfodaeth o Saesneg o fesur y Cwricwlwm

08/07/2020

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae 407 o weithwyr a chyn weithwyr addysg wedi llofnodi llythyr agored at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, yn galw arni i ollwng gorfodaeth o Saesneg o Fil y Cwricwlwm.

Mae’r llofnodwyr yn cynnwys athrawon, penaethiaid, llywodraethwyr, academyddion a chynorthwywyr dosbarth o bob rhan o Gymru. 

 

Mae’r mesur fydd yn cael ei gyflwyno i’r Senedd heddiw, yn gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r cwricwlwm ar wyneb y ddeddfwriaeth. Bydd gofyn i gyrff llywodraethu ysgolion ‘optio allan’ fesul un o wneud Saesneg yn orfodol cyn 7 oed yn eu hysgol nhw os ydyn nhw am weithredu’r cyfnod trochi i sicrhau rhuglder plant yn y Gymraeg.

 

Daw’r llythyr ar ôl i sawl corff, yn cynnwys Mudiad Meithrin, Rhieni dros Addysg Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith, fynegi pryderon am y cynlluniau. Mae’r llythyr yn dweud: 

 

“Byddai system lle mae’n rhaid i ysgolion Cymraeg geisio am eithriad i beidio â chyflwyno’r Saesneg cyn 7 oed, ond nid oes rhaid i ysgolion Saesneg wneud dim, yn sefydlu’r syniad taw rhywbeth ymylol, anarferol neu eithriadol ydy addysg Gymraeg, a Saesneg ydy cyfrwng normadol addysg yng Nghymru. Byddai’n enghraifft glir o drin ysgolion Cymraeg yn llai ffafriol nag ysgolion Saesneg.”

 

Noda’r llythyr nad yw’r Llywodraeth wedi cyflwyno “unrhyw dystiolaeth na chyfiawnhad addysgol” dros gyfiawnhau gwneud Saesneg yn orfodol yn y Bil, ac nad oes “yr un arbenigwr na rhanddeiliad argymell hyn yn ystod y gwaith ymgynghori.” Mae’r llythyr yn dadlau “[nad] oes angen gorfodaeth ddeddfwriaethol i sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn Saesneg” ac y byddai’n “cael effaith negyddol ar ethos ac arferion ysgolion a chyd-destunau addysg eraill lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm.” 

 

Ychwanega’r llythyr mai “hanes o orfod brwydro dros ei chydnabyddiaeth a’i datblygiad ydy hanes addysg Gymraeg. Ond mae hefyd yn hanes o bobl yn arloesi a chydweithio er mwyn cynnal etifeddiaeth unigryw i genedlaethau o blant. Nid ydym am weld Bil y Cwricwlwm yn troi’r cloc yn ôl ac achosi brwydro pellach dros addysg Gymraeg ar lefel ysgolion a chymunedau . . . Nid eithriad i’r norm ydy addysg Gymraeg ond rhywbeth i’w dathlu, ei chofleidio a’i thyfu.” 

 

Meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r llythyr yma’n dangos bod yr arbenigwyr — y rhai sy’n gweithio ym maes addysg — yn gwybod y byddai gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r Cwricwlwm yn niweidio addysg Gymraeg ac yn rhwystro ei thwf ar draws y wlad. 

 

Dim tystiolaeth

 

Nid yw’r Llywodraeth wedi cynnig dim un darn o dystiolaeth addysgol dros wneud Saesneg yn elfen orfodol o’r Cwricwlwm, ac ni wnaeth unrhyw gorff neu arbenigwr argymell hyn. Yr unig reswm mae’r Llywodraeth wedi rhoi yw bod Cymru’n genedl ddwyieithog, ond nid yw’r ddwy iaith ar sail gyfartal ac ni fyddai unrhyw ddeddfwriaeth synhwyrol yn eu trin fel petaen nhw. Y Gymraeg sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg.

 

Ychwanegodd:“Os ydyn ni am gyrraedd y miliwn a gwireddu hawl pob plentyn i’n hiaith yna deddf addysg Gymraeg newydd fydd yn gwneud addysg Gymraeg yn norm ym mhob rhan o’r wlad sydd angen, yn lle’r cynnig niweidiol hwn fydd yn troi’r cloc yn ôl.  
Does dim rheswm dros wneud Saesneg yn orfodol ac mae’n bryd i’r Llywodraeth wrando ar athrawon, arbenigwyr a’r cyhoedd a gwyrdroi’r cynlluniau ffôl hyn.”