Rhaglen arbennig yn olrhain y tân a ddinistriodd Pont Britannia

12/05/2020

Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Hanner canrif yn ôl yn 1970, dinistriwyd un o eiconau pensaernïol Cymru – Pont Britannia - athorrwyd y cysylltiad rhwng Llundain a Dulyn am y tro cyntaf mewn canrif a mwy. ac mewn rhaglen arbennig nos Iau, cawn glywed am y digwyddiad ym 1970 wrth i lygad dystion olrhain hanes y tân a ddinistriodd Pont Britannia rhwng Arfon a Môn.

Am 120 o flynyddoedd, bu pont chwyldroadol Robert Stephenson yn ddolen gyswllt allweddol igludo post ar y cledrau rhwng Llundain a Dulyn.

Ond ar 23 Mai 1970, daeth trychineb.Rhoddwyd y bont ar dân yn ddamweiniol gan blant oedd wedi crwydro i'r twnel. Lledodd y tânar hyd holl rychwant y bont. Gyda'r unig ffynhonnell ddŵr gannoedd o droedfeddi islaw yn yFenai, bu raid i’r diffoddwyr tân bwmpio dŵr ohoni. Toddodd y gwaith haearn a disgyn i'r môr.

 

Dinistrwyd Pont Britannia yn llwyr.Yn y ddogfen drawiadol yma bydd cynllunwyr ac adeiladwyr, diffoddwyr tân a llygad-dystionlleol a ymunodd yn yr ymdrech i ddiffodd y fflamau ac ail-godi’r bont yn rhannu eu profiadau.

 

A bydd hefyd clipiau archif o’r cyfnod.Roedd Trefor Lloyd Hughes wedi stopio mewn layby rhwng Porthaethwy a Llanfairpwll i fwytatsips ar ei ffordd adref y nos Sadwrn dyngedfennol honno:“Nes i sbio ar y bont a gweld fflamau’n dod allan o’r pendraw, a’r mwg gwyn ‘ma, a nes i ddeudwrth y cariad fod ‘na broblem fawr yn fanma. Mi ddreifish i ffwl sbid i'r signal box yn Llanfairond doedd neb yno - y boi wedi mynd i'r toiled.

 

Dyma fi'n deutho fo bod y bont ar dân. 'Ond mana drên yn dod o Fangor' medda fo. A dyma fi'n deud, 'Wel well i chdi sdopio hi felly, neu fyddhi yn y Fenai!"Un o’r dynion oedd ar ddyletswydd y noson honno gyda’r frigâd dan oedd Thomas Holland Roberts:“O’dd hi fatha simdde ar ei hochr – roedd y gwres mor ofnadwy allech chi ddim mynd i fewn.Tasa yna gant o injans tân bob ochr i'r bont, fasa nhw'm ‘di roi o allan."Galwyd am fwy o gymorth, ac er gwaethaf ymdrechion dros 60 o ddiffoddwyr tân, roedd ygwynt a phwysedd isel o’r cyflenwad dŵr yn eu herbyn y noson honno. Roedd y tar a orchuddiaitiwbiau metel y bont wedi dechrau cwympo o’r bont gan roi coed ar dân islaw, a pharhaodd ytân i losgi am hyd at 9 awr.

 

Fel rocedi

 

Yn ôl Dewi Davies a Selwyn Jones, dau blisomon oedd yn gweithio y noson honno;“Roedd y coed ‘ma ar dân yn disgyn lawr i’r Fenai yn sizzlo – a twrw mawr. Fel rocets a’u pennau i lawr.” Bu canlyniadau’r tân yn ddifrifol i borthladd Caergybi a’r ynys:“O’dd ‘na rolling stock yn Hollyhead o’dd yn sdyc yno, ac roedd eisiau dod a’r rheiny drwy Bont Borth efo ‘chydig bach o led y ddwy ochr. O’dd ishio dod a’r rheiny i Fangor i roi nhw nôl ar yrail – dyna job” meddai Dewi Davies.Deunaw mis yn ddiweddarach roedd trennau’n rhedeg rhwng Ynys Môn a’r tir mawr unwaith ynrhagor, ac ymhen 10 mlynedd roedd priffordd yn rhedeg uwch ei phen, gan gynnig ffordd arall igroesi’r Fennai.Hyd heddiw, maen nhw’n dal i gyfeirio at Bont Britannia fel “y bont newydd’, ac erbyn hyn, maellawer o’r farn bod y tân wedi bod yn ryw fath o fendith i’r ynys gyda’r cynnydd mewn traffig a’rpwysau ar y lonydd.