Edrych at ddyfodol y Gymraeg y tu hwnt i'r argyfwng

03/04/2020

Categori: Addysg, Iaith, Iechyd, Newyddion

Dros y misoedd nesaf, bydd Dyfodol i’r Iaith yn parhau i weithredu’n gadarnhaol a chreadigol dros y Gymraeg yn wyneb argyfwng dirdynnol Covid-19, gan sicrhau na fydd yr iaith yn cael ei hanwybyddu dros y cyfnod dyrys hwn.

Cafodd y ddogfen polisi, Cynllunio Adferiad y Gymraeg ar lein ei lansio heddiw ac yn rhannu’r testun gydag Aelodau’r Cynulliad a mudiadau sy’n cefnogi’r Gymraeg.

 

Yn ol y datganiad, "Dyma ein glasbrint ar gyfer Strategaeth gadarn i’r Gymraeg. Mae holl argymhellion y ddogfen yn seiliedig ar yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cynhwysfawr a chreu strwythurau addas i ymgymryd â’r gwaith."

 

"Drwy gyfrwng ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol byddwn yn cyhoeddi cyfres o destunau trafod sy’n codi o Gynllunio Adferiad y Gymraeg. Apeliwn am sylwadau a syniadau gan bawb er mwyn annog trafodaeth ar beth yw blaenoriaethau ac anghenion y Gymraeg."

 

Cyfnod anodd

 

"Mae hwn yn gyfnod anodd i ni i gyd, ond credwn ei fod hefyd yn gyfle i ni feddwl, myfyrio a gobeithio am well byd. Estynnwn wahoddiad i chwi i gyd ddychmygu a chynllunio ar gyfer adferiad y Gymraeg mewn byd fydd yn rhydd o fygythiad Covid-19."