Cyhoeddi cyfrol o lythyrau am brofiadau byw gydag iselder

06/02/2020

Categori: Addysg, Iechyd, Llenyddiaeth, Newyddion

Cyhoeddir llyfr newydd gan Wasg yr Lolfa yr wythnos hon gyda’r nod o fedru cynnig negeseuon o obaith i bobl sy’n byw ag iselder.

Mae Llythyrau Adferiad yn gyfieithiad o’r fersiwn wreiddiol lwyddiannus The Recovery Letters, a golygwyd gan James Withey ac Olivia Sagan a gafodd ei gyhoeddi yn 2012.

 
Cyhoeddwyd y gyfrol i gyflwyno cyfres o lythyrau ar-lein gan bobl a oedd yn dod dros iselder at bobl a oedd yn dal i fod yn ei chanol hi. Wedi’u crynhoi’n gasgliad am y tro cyntaf ar gyfer pobl sy’n byw gydag iselder, mae’r llythyrau ysbrydoledig a didwyll hyn, sy’n seiliedig ar brofiadau personol, yn cynnig gobaith a chefnogaeth ac yn tystio bod adferiad yn bosib.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Asiantaeth Darllen (The Reading Agency) a llyfrgelloedd i sicrhau bod y cynllun Darllen yn Well ar gael ar draws Cymru. Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yn 2018, a llynedd fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Nod Darllen yn Well ydi i roi cymorth i bawb deall a rheoli eu hiechyd a byw yn dda a rhoi cyngor i deulu a gofalwyr. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan weithwyr y maes iechyd. Mae’r Asiantaeth Darllen yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar y rhestr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.

 

Llyfrau hunangymorth

 

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru “Mewn cyfnod o drafod cynyddol am broblemau iechyd meddwl, rydyn ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru. Mae pob un o’r llyfrau hunangymorth yn y gyfres hon wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd ac mae sicrhau bod deunydd safonol o’r fath hefyd ar gael yn y Gymraeg yn hollbwysig.”
 
Bydd mwy o gyfrolau’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gyda’r llyfrau yn trafod pynciau pwysig fel ymwybyddiaeth ofalgar, galar, gorbryder ac anhwylder bwyta. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan