Galw am fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n cyfrannu at ffyniant y Gymraeg

05/02/2020

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040 yn yr Haf gyda'r ddogfen yn debyg o osod y cyfeiriad ar gyfer cynllunio gwlad a thref drwy Gymru gyfan, ac wrth i'r trafod ddechrau rwan, mae'r mudiad yn galw am fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n cyfrannu at ffyniant yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Wyn Thomas, aelod o Fwrdd Dyfodol: “Y Fframwaith hwn fydd y glasbrint ar gyfer cynllunio dros fwyafrif cyfnod Strategaeth y Gymraeg, ac felly byddai rhywun yn disgwyl iddo gyfrannu’n rhagweithiol tuag at y nod o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg. Yn anffodus, mae’r ddogfen ar ei ffurf bresennol yn colli sawl cyfle i wneud hynny.

 

Ni rodda’r Fframwaith unrhyw ystyriaeth arbennig i gadarnleoedd y Gymraeg, er enghraifft, ac yn wahanol i faterion amgylcheddol, nid oes gan y Gymraeg Ymgynghorai Statudol i warchod ei buddiannau. Credwn y dylai Comisiynydd y Gymraeg dderbyn y cefnogaeth angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith pwysig ac arbenigol hwn.

 

Wrth i’r Senedd drafod y Fframwaith dros y misoedd nesaf, mae Dyfodol yr Iaith yn ofni y gwnaiff y diffyg gwarchodaeth ac arbenigedd hyn arwain at danseilio’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg ac i’r cyfleoedd i’w chryfhau o fewn y gyfundrefn gynllunio. Mae’n argoeli’n ddrwg nad yw’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn barod i’n cyfarfod ein mwyn trafod ein sylwadau.

 

Gwaith graffu manwl

 

"Ofnwn y gwnaiff y gwaith craffu manwl sy’n angenrheidiol o safbwynt y Gymraeg ddisgyn ar ysgwyddau nifer fach o Aelodau Cynulliad ac mae’r berthynas rhwng cynllunio gwlad a thref a’r Gymraeg yn rhy bwysig i hynny - mae’n fater o bwys strategol i’r genedl gyfan."

 

Mae Dyfodol i'r Iaith wedi ysgrifennu at bob Aelod o’r Cynulliad i bwyso’r mater, codi ymwybyddiaeth ac amlygu’r egwyddor sylfaenol o drefn cynllunio sy’n ategu ymrwymiad y Llywodraeth i’r Gymraeg .”