Noson fythgofiadwy wrth i Gymru gyrraedd Ewro 2020

20/11/2019

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Sgoriodd Aaron Ramsey ddwy gôl wrth i Gymru guro Hwngari yn gyffyrddus i hawlio'i lle yn rowndiau terfynol y bencampwriaeth. Unwaith eto Gymru annwyl.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bel-droed Cymru, Jonathan Ford: "Dydy hyn ddim ond yn grêt i chwaraeon na phêl-droed, mae'n grêt i Gymru."

 

Fe roedd cyrraedd Ewro 2016 yn gamp hanesyddol o bwys, ond fe roedd y fuddugoliaeth neithiwr yn nodi hyder, gallu a dyfal-barhad tu hwnt, gyda'r fuddugoliaeth neithiwr yn coroni'r ymdrech lew. Dechreuodd y noson yn drydanol gyda fersiwn bythgofiadwy o Hen Wlad Fy Nhadau gan orffen gyda'r tim yn cerdded o amgylch y cae yn diolch i'r Wal goch.

 

Yr ydym yn ol ar lwyfan y byd, gyda haf arall cyffrous yn ein disgwyl yn 2020. Ond cyn edrych ymlaen, beth am ni edrych yn ol ar uchafbwyntiau neithiwr.? Mae Lleol.cymru wedi dethol y negeseuon sy'n crisialu'r noson gofiadwy.