Galw am adolygiad allanol i benderfyniad Comisynydd y Gymraeg ynghylch Cyngor Wrecsam

06/11/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae galw am adolygiad allanol ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg gefnu ar addewid i ddirwyo adran gyllid Cyngor Wrecsam wedi i'r awdurdod dorri'r gyfraith drwy beidio darparu dogfennau trethi yn Gymraeg am y bumedflwyddyn ers cael gwybod am fethiannau.

Mewn adroddiad ar fethiant Cyngor Wrecsam i ddarparu gohebiaeth trethiyn gywir yn Gymraeg, dywed swyddfa'r Comisiynydd: "... mae'r Cyngor ynparhau i gynhyrchu gohebiaeth nad yw'n cydymffurfio ... er gwaetha nifero ymyriadau gennyf. Mae'r gŵyn hon yn amlygu nad yw'r Cyngor wedicymryd pob cyfle yr wyf wedi ei gynnig i atal methiannau fel rhain rhagcael eu hailadrodd neu barhau. Rwyf o'r farn fod y mater yma oddiddordeb i drigolion y fwrdeistref gan eu bod yn cael eu heffeithiodro ar ôl tro gan fethiant y Cyngor i gymryd camau digonol i fynd i'rafael a'r methiant i gydymffurfio yn llawn … Yn achos fy nyfarniadarfaethedig fod [y Cyngor] wedi methu â chydymffurfio â safon 6,byddaf yn gosod cosb sifil."

 

Fodd bynnag, mewn e-bost yn ddiweddarach at yr achwynydd, honnoddswyddog y Comisiynydd: _"Ni chafodd y bwriad o osod cosb sifil eiargymell na'i drafod gyda'r Comisiynydd wrth gyflwyno'r adroddiadarfaethedig iddo ei ystyried."_
Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni mai dim ond yr enghraifft ddiweddarafo'r Comisiynydd newydd yn ceisio gwanhau'r system o warchod hawliauiaith yw'r tro pedol ar ddirwyo adran gyllid yr awdurdod.

 

Mae'r Comisiynydd, a ddechreuodd ei swydd ym mis Ebrill eleni, wedi bodyn ymchwilio i lai na 40% o'r cwynion a dderbynnir ganddo - hanner lefelei ragflaenydd. Ac, yn gynharach eleni, darganfuwyd gohebiaeth oddiwrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai oymchwiliadau.

 

Dywedodd Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r tro pedol hwn yn amlygu camweinyddiaeth ddofn a difrifol yComisiynydd newydd. Mae o wedi gwneud cyfres o gamgymeriadau ers iddogael ei benodi - rhai'n fwriadol a rhai'n anfwriadol. Ond mae e'n sicrwedi mynd ati i wanhau a meddalu ei brosesau er lles sefydliadau ac ardraul hawliau unigolion.

 

"Mae'n hollol amlwg ei fod yn ceisio plesio Llywodraeth Cymru er mwyncael mwy o arian yn ei gyllideb y flwyddyn nesaf. Mae angen iddo fagudipyn o asgwrn cefn er mwyn diogelu ein hawliau ni. Mae pobl wedibrwydro'n galed ers degawdau i ennill hawliau iaith, nid lle'rComisiynydd yw dewis a dethol pa rai mae e'n poeni amdanyn nhw.

 

"Mae'n destun pryder mawr bod llai a llai o gwynion yn destunymchwiliad statudol. Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynionyn gwanhau ein hawliau iaith. Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim moddgorfodi unrhyw newid i bolisi neu aferion sefydliad. Felly, drwy ymddwynfel hyn, bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu'rgyfraith. Tra bod pobl o ganlyniad yn parhau i wynebu rhwystrau iddefnyddio'r Gymraeg, mae 'na bergyl hefyd y bydd y cyhoedd yn colliffydd yn y Comisiynydd i ymdrin â'u cwynion o ddifrif. Dylai AledRoberts ganolbwyntio ar wneud ei gyfrifoldebau rheoleiddio presennol yniawn er lles y Gymraeg, yn hytrach na gwasanaethu mympwy Llywodraeth ydydd."

 

Galw am benodi archwilwyr allanol

 

Yn eu cwyn ffurfiol at y Comisiynydd sy'n galw arno i benodi archwilwyr allanol i ymchwilio i benderfyniadau'r Comisiynydd newydd, meddai Cymdeithas yr Iaith:"Mae nifer o'n haelodau a'n cefnogwyr yn pryderu nad yw gwasanaethauCymraeg yn bodoli neu'n gwella fel y gallen nhw o achos y newidiadau yny ffordd mae'r Comisiynydd wedi bod yn ymdrin â chwynion ers mis Ebrilleleni. Mewn nifer o achosion unigol, mae'r newid polisi wedi effeithio'nnegyddol ar yr unigolion sydd wedi cwyno - dydyn nhw heb gaelcyfiawnder. Credwn ymhellach bod y newid i'r ffordd mae'r Comisiynydda'i swyddogion yn ymdrin â chwynion yn groes i lythyren ac ysbryd nifero ddarpariaethau deddfwriaeth, polisi ac arfer gweinyddiaeth dda."