Darlith yn olrhain hanes teulu adnabyddus o Gaergybi

30/09/2019

Categori: Addysg, Amgylchedd, Newyddion

Bydd teulu Stanley o Benrhos, Caergybi yn ganolbwynt darlith gyhoeddus ddiddorol ym Mhrifysgol Bangor gan yr hanesydd lleol amlwg, Dr Gareth Huws.

Ymhlith campau'r teulu Stanley oedd adeiladu'r clawdd sef Clawdd Stanley rhwng Ynys Cybi ac Ynys Môn, ac fe aethant ati i atgyweirio a chynnal gwelliannau i Eglwys Sant Cybi yng Nghaergybi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

 

Yn dwyn y teitl 'Penrhos: powerful women and the curious tale of a knight, a lord and an “honourable"’, cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 9 Hydref am 5.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau. 

 

Dywedodd Dr Huws 'Bydd y ddarlith hon yn canolbwyntio ar dair cenhedlaeth o'r teulu Stanley a oedd yn byw ym Mhenrhos rhwng 1760 a 1880.  Bydd yn dangos y gall astudio un teulu gyfrannu at y ddealltwriaeth hanesyddol ehangach o Gymru lled-wledig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg 'hir'.  Yn ganolog i'r ddealltwriaeth hon mae'r rôl ganolog, a di-glod i raddau helaeth, y mae menywod y teulu yn ei chwarae."

 

Bu Gareth Huws yn dysgu cemeg yn ysgolion Ynys Môn am nifer o flynyddoedd, ond yn fwy diweddar dyfarnwyd doethuriaeth iddo gan Brifysgol Aberystwyth am ei ymchwil i hanes ymfudo a thwf trefi Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg 'hir' a'r newidiadau cymdeithasol, ieithyddol a chrefyddol yng Nghymru yn ystod yr amser hwnnw. 

 

Arddangos casgliad yr Archifdy

 

Mae'r ddarlith yn rhan o gyfres arbennig o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yr hydref hwn i arddangos yr hyn sydd yn Archifdy'r Brifysgol, sy'n cynnwys cofnodion ystâd Penrhos. 

 

Dywedodd yr Archifydd Elen Simpson: 'Mae’r ddarlith hon yn ragflas wych ar gyfer ein Diwrnod Agored ddydd Gwener, 25 Hydref, a'r wythnos o weithdai yr ydym yn eu trefnu ar gyfer mis Tachwedd. Mae croeso i bawb ddod i archwilio'r dogfennau hynod ddiddorol yn ein archifau helaeth.'