Cynllun gwella ansawdd dŵr yn dechrau gwneud gwahaniaeth

10/09/2019

Categori: Addysg, Amaethyddiaeth, Amgylchedd, Newyddion

Mae cynllun sy’n bartneriaeth newydd gyda ffermwyr lleol i wella ansawdd dwr yn yr afon Clwyd wedi dechrau gwneud gwahaniaeth, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r cwpwl sy’n ffermio ger yr Afon Clwyd yn Sir Ddinbych wedi derbyn cymorth gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wella dwr yr afon.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, ymwelodd staff Cyfoeth Naturiol Cymru â thua 200 o ffermydd yn ardal isaf Clwyd, gan ddarparu cyngor ar y ffordd orau i amddiffyn yr afon rhag llygredd amaethyddol a all niweidio bywyd afon ac effeithio ar draeth y Rhyl.

 

Mae fferm Gareth and Lowri Evans yn un o naw ar hyd yr afon Clwyd a fanteisiodd ar gynnig am gymorth gan Cyfoeth Naturiol Cymru i atal gwartheg rhag cyrraedd yr afon a’i llygru.

 

Hyd yn hyn, mae tua 2000 metr (milltir a chwarter) o'r afon wedi'i ffensio a darparwyd cafnau i gyflenwi dŵr yfed amgen ar gyfer gwartheg.

 

At ei gilydd, mae mynediad i'r afon wedi'i atal ar gyfer hyd at 500 o wartheg.

 

Dywedodd Lowri Evans, o Fferm Bron Haul yn Henllan: “Rydan ni, fel ffermwyr, yn llwyr werthfawrogi bod gennym gyfrifoldeb i helpu i wella ansawdd dŵr.

 

Er mai prosiect bach yw hwn, rydyn ni'n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth.”

 

Newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth

 

Dywedodd Bethan Beech, Arweinydd Tîm CNC ar gyfer Sir Ddinbych: “Mae llawer mwy i’w wneud. Ond mae'r prosiect hwn yn dangos y gall newidiadau bach mewn arferion fferm wneud gwahaniaeth mawr i ansawdd dŵr mewn nentydd, afonydd a dyfroedd arfordirol cyfagos.

 

“Mae Gogledd Cymru yn elwa o amgylchedd hardd ac mae miloedd o bobl leol ac ymwelwyr yn mwynhau ein harfordir.“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi canolbwyntio ar y seilwaith draenio carthion yn rhan isaf Clwyd, gan gynnwys asedau Dŵr Cymru/Welsh Water, gollyngwyr preifat a draeniad trefol mewn ymgais i liniaru digwyddiadau llygredd ym mhob sector.

 

“Trwy wneud llawer o welliannau bach, unigol, gallwn fwynhau afonydd a dyfroedd ymdrochi glanach.”

 

Newyddion da i fywyd gwyllt

 

Mae gan y cynlluniau fuddion amgylcheddol ehangach hefyd - bydd llai o wartheg mewn afonydd yn golygu llai o darfu ar wely'r afon a glannau afonydd - newyddion da i fywyd gwyllt.

 

Mae CNC bellach yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Clwyd, Conwy a Gwynedd yn gwneud gwaith tebyg yn rhan isaf Clwyd, a ariennir gan Dŵr Cymru Dŵr Cymru.

 

Dywedodd Gail Davies, Rheolwr Rhaglen yr Amgylchedd ar gyfer Dŵr Cymru Dŵr Cymru “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi prosiect partneriaeth yn rhan isaf Clwyd wrth i ni barhau ag ymchwiliadau i’n hasedau ein hunain.” Cefnogir y fenter gan yr Undebau Ffermio yng Nghymru.

 

Dywedodd Mr Tudur Parry, Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir FUW a chynrychiolydd ar Fforwm Rheoli Tir Cymru: “Gwn fod yr Undeb wedi bod yn cydweithredu â rhanddeiliaid eraill yn yr is-grŵp ar lygredd amaethyddiaeth Fforwm Rheoli Tir Cymru, i archwilio ffyrdd o liniaru llygredd.

 

“Dydy’r un ffermwr eisiau llygru dyfroedd wyneb neu ddaear a byddwn yn parhau i archwilio ffyrdd o wella ansawdd dŵr yng Nghlwyd a ledled Cymru.”

 

Dywedodd Paul Williams, Cadeirydd Sir Clwyd yn NFU Cymru: ‘‘ Mae ffermwyr yn cymryd eu cyfrifoldebau amgylchedd o ddifrif ac rydym yn falch o weithio gyda’r bartneriaeth o sefydliadau i gefnogi ffermwyr i weithredu i wella ansawdd dŵr lle mae angen hyn."