Cyngor Sir Gâr am sicrhau fod y Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio

11/07/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae cynghorwyr Sir Gâr wedi rhoi eu cefnogaeth unfrydol i gynnig sy'n galw ar y system gynllunio i chwarae mwy o ran yn y gwaith o ddiogelu'r Gymraeg a sicrhau ei thwf.

Roedd y Cynghorydd Alun Lenny, sy’n cadeirio Pwyllgor Cynllunio'r Cyngor, wedi cyflwyno cynnig i'r Cyngor Llawn yn gofyn i'r Gymraeg fod yn ystyriaeth gynllunio berthnasol ar gyfer pob datblygiad o bump neu'n rhagor o dai yn Sir Gaerfyrddin wledig, a 10 neu'n rhagor o dai mewn ardaloedd trefol.

 

Dywedodd y byddai dull o'r fath yn helpu i fynd i'r afael â'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, ac yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Mae'r Cyngor wrthi'n datblygu ei Gynllun Datblygu Lleol nesaf, a fydd yn gosod y ffiniau a'r canllawiau ar gyfer cynllunio tan 2033.

 

Gyda chefnogaeth y Cyngor i'r cynnig, bydd hyn bellach yn cynnwys darpariaeth i fesur effaith datblygiadau mawr ar y Gymraeg dros y sir.

 

Bydd hefyd yn ceisio darparu mwy o dai fforddiadwy er mwyn galluogi rhagor o deuluoedd sy'n siarad Cymraeg i barhau i fyw yn Sir Gaerfyrddin, neu ddychwelyd i fyw yno.

 

Wrth annerch y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Lenny: “Nawr yw'r amser i ddatblygu statws y Gymraeg yn y sir. Mae darparu tai yn y lleoliadau iawn yn hanfodol. “Mae ceisiadau cynllunio yn destun llawer o ymgynghoriadau, ond mae ystlumod ac ieir bach yr haf yn cael mwy o statws na'r Gymraeg mewn ceisiadau cynllunio. Dylid cynnal ymgynghoriad ynghylch yr effaith ar yr iaith.

 

“Mae'r gostyngiad dychrynllyd yn y cyfrifiad diwethaf yn dystiolaeth glir y dylai'r Gymraeg fod yn ystyriaeth gynllunio berthnasol”

 

Ychwanegodd: “Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gwledig: “Mae anghysondeb ledled Cymru sydd wedi arwain at ddryswch. Mae gennym arweiniad gan Lywodraeth Cymru ond nid oes gennym ganllawiau clir ynglŷn â'r hyn sy'n diffinio ardal fel lleoliad o sensitifrwydd ieithyddol.”

 

Methodoleg safonol i asesu’r effaith

 

Adleisiwyd hyn gan y Cynghorydd Mair Stephens, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer Cynllunio Strategol, a awgrymodd y dylid cael methodoleg safonol i asesu'r effaith ar y Gymraeg ledled Cymru.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Tina Higgins, a oedd yn siarad ar ran yr wrthblaid: “Ar ôl canlyniadau'r cyfrifiad diwethaf sefydlodd y Cyngor weithgor i achub yr iaith yn Sir Gaerfyrddin. Ar y pryd, ysgrifennodd yr Arweinydd at y Gweinidog yn gofyn i'r Gymraeg gael ei hystyried fel rhan o TAN 20. Mae Deddf Cynllunio 2015 yn ein galluogi i wneud y penderfyniadau hyn ar lefel leol. Rydym yn cefnogi'r cynnig ac yn diolch i'r grŵp trawsbleidiol a wnaeth yr argymhellion.”