Yr Urdd yn anrhydeddu pobl sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi anrhydeddu pobl sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r mudiad dros gyfnod o flynyddoedd. Eleni, tro ardal Caerdydd a’r Fro yw hi, wrth i’r Eisteddfod ddod i Fae Caerdydd ddiwedd mis Mai.

“Rwy’n gwerthfawrogi’r anrhydedd a ddaeth i’m rhan eleni a hynny yn fy milltir sgwâr yng Nghaerdydd. Diolch i’r Urdd am gydnabod fy ymrwymiad i waith y mudiad dros lawer blwyddyn.”

Mae pedwar Llywydd Anrhydeddus eleni, a byddant yn cael eu anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan yr ŵyl ar y  dydd Llun cyntaf. Y pedwar yw’r cyfarwyddwr a dramodydd Emyr Edwards, y cerddor ac arweinydd Alun Guy, un sydd wedi ymwneud a’r mudiad ers degawdau fel nyrs, Gaynor Jones ac un o arweinwyr yr Urdd ers blynyddoedd yn y brifddinas, Gwilym Roberts.

 

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “I blant a phobl ifanc Caerdydd a’r Fro a thu hwnt, yn Gymry ac yn ddysgwyr, y pedwar yma fu wynebau’r Urdd i bob pwrpas am ddegawdau. Maen nhw yn wir gymwynaswyr i’r mudiad ac mae hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr ŵyl eleni. Mae’r mudiad yn ddibynnol ar bobol weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a gymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r Urdd.” 

 

Yn eu geiriau eu hunain, dyma’r pedwar llywydd: Emyr Edwards: “Treuliais fy ngyrfa fel pennaeth yr Adran Ddrama yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg y Barri ac yna ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd. Bûm yn gynhyrchydd am bedair blynedd yn nyddiau cynnar datblygiad S4C ac enillais gystadleuaeth y ddrama fer dair gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Roeddwn yn un o sylfaenwyr a Chyfarwyddwr Cwmni Theatr Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru ac un o uchafbwyntiau’r fenter honno oedd perfformio’r ddrama gerdd ‘Jwdas Iscariot’ trwy Gymru, yn Llundain ac yna ar y teledu.

 

“Mae gennyf dros 30 o gyfrolau wedi eu cyhoeddi, y rhan fwyaf yn ddramâu ac eraill yn farddoniaeth. “Mae’n bleser o’r mwyaf cael fy newis yn un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Rwy’n bersonol yn ddyledus i’r Urdd am y cyfle i ddatblygu’n Gymro dros y blynyddoedd. Dyma fudiad sydd wedi bod yn rhan bwysig tu hwnt yn hanes ein cenedl yn ystod yr ugeinfed ganrif.”

 

Alun Guy: “Brodor o’r Brifddinas ydw i. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Cathays es i ymlaen i raddio o  Brifysgol Caerdydd a dilyn gyrfa fel athro Cerdd yn Ysgol Ramadeg Pontypridd ac yna Ysgol Gyfun Glantaf. Erbyn hyn rwy’n arholwr Cerdd a chyfieithydd gyda CBAC.’

 

“Fy nghysylltiad cyntaf gyda’r mudiad oedd yn Ysgol Cathays efo’r athro Elfed Thomas ac yn y brifysgol syrthiais dan ddylanwad Gwilym Roberts ac arwain Côr yr Aelwyd. Mae gen i atgofion gwerthfawr o wersylla yn Llangrannog ac roeddwn yn mwynhau swydd hefyd fel ‘swog’ yng Nglan-llyn bob haf. Ailgydiais wedyn yn y maes eisteddfodol wrth hyfforddi disgyblion Ysgol Gymraeg Glantaf. Uchafbwynt fy ngyrfa perfformio oedd arwain perfformiad o’r Meseia yn Neuadd Dewi Sant yn 1985 gyda chôr o 500 o aelodau’r Urdd a cherddorfa lawn.

 

“Rwy’n hynod ddiolchgar o dderbyn cydnabyddiaeth fel un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae Urdd Gobaith Cymru wedi bod yn rhan annatod o’m bywyd ers i mi wisgo bathodyn aur a gwyrdd yr Urdd fel bachgen 11 oed.”

 

Cystadlu

 

Gaenor Jones: “Cefais fy ngeni a magu yn Aberystwyth a chael fy addysg yn yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Ramadeg Ardwyn. Yn naturiol ddigon 'roedd yr elfen o gystadlu yn gryf ac roeddwn yn mynychu’r adran yn wythnosol. Es i ymlaen wedyn i hyfforddi fel nyrs yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd a gweithio yna am dros ddeng mlynedd ar hugain.

 

“Yn ffodus cefais y cyfle i fynd i'r gwersyll yn Llangrannog pan yn y chweched dosbarth a dyna ddechrau cysylltiad sy'n parhau hyd heddiw, ac wedi gallu mynychu'n ddi-dor yn rhinwedd fy swydd fel nyrs.

 

“Rwy'n gwerthfawrogi cael bod yn Llywydd Anrhydeddus gan fy mod yn teimlo bod hyn yn dangos pwysigrwydd yr elfen o gynnwys pawb a'r parch sy'n cael ei ddangos i'r rhai sydd yn y cefndir ym mhob rhan o'r mudiad.”

 

Athro

 

Gwilym E Roberts: “Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd a mynychu’r Ysgol Ramadeg i Fechgyn ym Mhenarth cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a’r Gyfadran Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dychwelais i Gaerdydd yn 1958 a bûm yn athro Cymraeg yn ysgolion Trelai, Rhymni a Llanedern am dros ddeng mlynedd ar hugain.

 

“Yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod dechreuais fynychu Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog ac ar ôl bwrw fy mhrentisiaeth fel “swog” bûm yn arwain cyrsiau Cymraeg yn Llangrannog a Glan-llyn am flynyddoedd.

 

“Bûm yn arwain Aelwyd yr Urdd Caerdydd rhwng 1959-1971 ac Adran Bentre’r Urdd yn Rhiwbeina am bymtheng mlynedd. Derbyniais Fedal Goffa Syr T. H. Parry Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhorthmadog yn 1987 am fy ngwaith gyda phlant a phobl ifanc.