Menyw yn wynebu carchar er mwyn pwerau darlledu i Gymru

04/04/2019

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae menyw 68 mlwydd oed o Geredigion yn wynebu cyfnod yn y carchar er mwyn sicrhau pwerau darlledu i Gymru wedi iddi datgan nad yw’n mynd i dalu cosb llys o £220 ddoe.

Eiris Llywelyn, sy’n 68 mlwydd oed o Ffostrasol yng Ngheredigion, yw’r trydydd unigolyn i fynd gerbron achos llys am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. Hi yw’r unigolyn cyntaf i ddatgan nad yw’n mynd i dalu cosb ariannol llys ac felly wynebu carchariad.

 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod pwerau darlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth Gymreig a’r Gymraeg. Yn ôl arolwg barn, mae llai na hanner poblogaeth Cymru yn gwybod bod y cyfrifoldeb dros iechyd wedi ei ddatganoli i’r Senedd yng Nghaerdydd.

 

Mae dros wyth deg o bobol yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu mewn ymdrech i drosglwyddo rheolaeth dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.

 

Dywedodd Eiris Llywelyn o’r llys yn Aberystwyth: “Mae’r ymgyrch hon yr un mor bwysig â brwydr y 70au a’r 80au dros sefydlu’r sianel. Mae’n frwydr dros ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau a dros ddemocratiaeth. Mae democratiaeth yn amhosibl os na fyddwn yn cael rheolaeth ar y cyfryngau - a’r cyfryngau’n adlewyrchu ein gwerthoedd a’n diwylliant ni a’n bod ni’n gweld y byd drwy ffenestr Gymreig. Mae datganoli’r system ddarlledu yr un mor bwysig â datganoli grym gwleidyddol.

 

“System ddarlledu sy’n cael ei rhedeg o San Steffan yw’r un bresennol. Cawn ein trin fel rhan o Loegr gan yr holl ddarlledwyr Prydeinig a phropaganda Prydeinig a ddarlledir i ni yng Nghymru yn feunyddiol. San Steffan sy’n dal yr awenau. Dyma sy’n gyfrifol am y merddwr darlledu yng Nghymru a pham mai dim ond un sianel deledu sydd gennym - a sicrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol honno yn y fantol; un orsaf radio ac ychydig oriau ar ail orsaf. Gadewir i gwmnïau masnachol gael rhwydd hynt i wneud beth a fynnon nhw â radio lleol a dileu’r ychydig oriau Cymraeg a arferai gael eu darlledu.

 

“Mae’r diffyg ar blatfformau eraill yn drychinebus a Chymru ymhell ar ôl yn y chwyldro digidol. Ni fydd yr iaith fyw oni bai ei bod yn cael ei defnyddio ar draws pob cyfrwng a’i bod yn briod iaith cyfryngau digidol yng Nghymru. Mae prinder cynnwys Cymraeg ar y we yn fater o ofid ac os nad yw’r Gymraeg yn weledol ac yn addasu i’r oes ddigidol fydd dim dyfodol iddi.”

 

Safiad dewr

 

Ychwanegodd Aled Powell ar ran grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith: “Mae Eiris yn gwneud safiad dewr iawn dros ddemocratiaeth yng Nghymru ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddi. Dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Rydyn ni wedi cael hen ddigon o Aelodau Seneddol yn Llundain nid yn unig yn gwneud toriadau i’r cyfryngau Cymraeg, ond hefyd yn teyrnasu dros system sy’n rhoi cyn lleied o sylw i faterion Cymreig a chyfryngau nad ydynt yn adlewyrchu bywydau pobl yng Nghymru. Felly, rydyn ni’n pwyso am ddatganoli’r pwerau cyfathrebu a darlledu hyn er lles democratiaeth Cymru, yn ogystal â’r Gymraeg. Mae diffyg cynnwys Cymreig a Chymraeg ar y cyfryngau yn bygwth parhad datganoli, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater.”

 

Y llynedd cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu syniadau nhw ar sut y dylid fynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu, mewn dogfen o’r enw Datganoli Darlledu i Gymru. Yn ôl y ddogfen honno gellid denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli’r ffi drwydded a threth ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook.

 

Yn ôl arolwg barn gan YouGov a gyhoeddwyd y llynedd, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i'r Senedd yng Nghymru.