Medal Efydd i Geraint Thomas

01/08/2014

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Dim ond tri diwrnod ar ôl gorffen y Tour de France mae Geraint Thomas wedi ennill medal Efydd yn y ras yn erbyn y cloc yn Gemau’r Gymanwlad. Gorffennwyd y ras mewn 47:55:82 tu ôl Alex Dowsett o Loegr a Rohan Davies o Awstralia. 

 

Gyda 28 medal mae Tîm Cymru nawr yn yr 11eg safle yn y tabl ac wedi curo'r targed o ennill 27 o fedalau gyda sawl diwrnod o’r gemau ar ôl. Mae yna ddigon o gyfleodd ar ôl i ennill fwy ac mae’n debygol i ni guro record Cymru o 31 o fedalau a enillwyd ym Manceinion yn 2012.

 

Pob lwc i’r tîm ar gyfer gweddill y gemau. 

 

Darllenwch mwy i weld rhai o’r cyfarchion i Geraint ar ôl y ras.