S4C yn darlledu'n fyw gemau tîm pêl-droed Cymru

03/09/2018

Categori: Celfyddydau, Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Cyhoeddodd S4C heddiw eu bod am ddarlledu pob un o gemau Cymru yn nhwrneimant Cynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Ewro 2020 yn fyw.

Mae’r cytundeb gyda deiliad hawliau’r DU ac Iwerddon, Sky Sports, hefyd yn cynnwys dwy gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ac Albania.

 

Mae’r cytundeb ar gyfer 16 gêm yn golygu y bydd modd i wylwyr fwynhau’r arlwy yn fyw ar deledu am ddim ac yn yr iaith Gymraeg. Y gemau cyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd fydd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau 6 Medi am 7.30, ac yna tridiau yn ddiweddarach yn erbyn Denmarc yn Aarhus, ar brynhawn Sul am 4.45.

 

Mae’r ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yng Nghaerdydd ar 11 Hydref ac oddi cartref yn Albania ar 20 Tachwedd.

 

Mae gemau rhagbrofol UEFA Ewro 2020 yn dechrau ym mis Mawrth 2019, gyda phob un o’r deg gêm i’w dangos yn fyw yn yr iaith Gymraeg ar y sianel genedlaethol am ddim.

 

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees, “Mae hyn yn newyddion ardderchog i wylwyr S4C ac i gefnogwyr pêl-droed Cymru. Yr ydym i gyd yn cofio’r gystadleuaeth Ewro ddiwethaf yn 2016 a’r llawenydd a’r pleser a ddaeth hynny i bawb yng Nghymru. Roedd yn fraint i allu dod â’r profiadau hynny i’n gwylwyr. Gobeithio y bydd y ffordd i 2020 yr un mor gyffrous a llwyddiannus ar y maes ac ar y sgrin.”

 

Yn cyflwyno bydd tîm profiadol y gyfres Sgorio, ac ar gyfer y gem fyw gyntaf yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, mi fydd y cyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, John Hartson, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn cadw cwmni i Dylan Ebenezer yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

 

Manylion Gemau

 

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Dydd Iau 6 Medi 2018, 7.30

Cymru v Gweriniaeth Iwerddon

Stadiwm Dinas Caerdydd

Cic Gyntaf 7.45

 

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Dydd Sul 9 Medi 2018, 4.45

Denmarc v Cymru

Parc Ceres, Aarhus

Cic Gyntaf 5.00

 

Gêm Gyfeillgar

Dydd Iau 11 Hydref 2018

Cymru v Sbaen

Stadiwm y Principality, Caerdydd

Cic Gyntaf 7.45

 

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Dydd Mawrth 16 Hydref 2018

Gweriniaeth Iwerddon v Cymru

Stadiwm Aviva, Dulyn

Cic Gyntaf 7.45

 

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Dydd Gwener 16 Tachwedd 2018

Cymru v Denmarc

Stadiwm Dinas Caerdydd

Cic Gyntaf 7.45

 

Gêm Gyfeillgar

Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018

Albania v Cymru

Arena Elbasen, Elbasen

Cic Gyntaf i’w gadarnhau

 

Tynnu enwau ar gyfer y gemau rhagbrofol, Dulyn 2 Rhagfyr 2018

 

Gemau Rhagbrofol Ewro (deg diwrnod gêm) 21–26 Mawrth, 7–8 & 10–11 Mehefin, 5–10 Medi, 10–15 Hydref & 14–19 Tachwedd 2019.