Cyhoeddi rhifyn newydd O'r Pedwar Gwynt

A hithau’n hanner can mlynedd ers i danciau'r Sofietiaid rowlio i ganol dinas Prâg ac i ieuenctid Paris godi coblau stryd i'w hyrddio ar y Sefydliad, mae digwyddiadau '68 yn dirgrynu trwy rifyn 7 O’r Pedwar Gwynt ac yn cydio yn y presennol.

Yn hydref 2017 teithiodd Piotr Szczęsny ar y trên i Warszawa a llosgi ei hun i farwolaeth mewn protest yn erbyn llywodraeth Gwlad Pwyl. Wrth fyfyrio ar y digwyddiad erchyll hwn, a'r adlais o hunanaberth Jan Palach a Ryszard Siwiec hanner canrif ynghynt, dadleua Aled Llion Jones fod ‘drych hanes’ yn dangos ‘cryn eironi’ ac yn codi cwestiynau sydd yn hanfodol i ni eu hwynebu heddiw.

Arwyddocâd ’68 i Gymru sydd dan sylw mewn ysgrif gan Llion Wigley. Mae’n trafod yr elfennau radicalaidd a fodolai yng nghefn gwlad Cymru yn y chwedegau, ac yn ystyried y tir cyffredin rhwng y diwylliant Anghydffurfiol Cymraeg a’r diwylliant amgen a ddaeth i’r amlwg yn y cyfnod hwnnw.

 

Dychwelyd i Trier yn yr Almaen mae Angharad Price i ysgrifennu am waddol Karl Marx ar ei ben-blwydd yn 200. Wrth fynychu’r dathliadau yn ei dref enedigol, mae hi’n myfyrio ar fywyd y ffigwr gwleidyddol hwn, ei bwysigrwydd fel meddyliwr 'llachar, treiddgar', a’i ddylanwad ddwy ganrif yn ddiweddarach.

 

Aeth O’r Pedwar Gwynt hefyd i gartref Beti George i’w holi am ei phrofiad o fod yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, ei phlentyndod yn Sir Gâr fel merch i wehydd a chogydd ysgol, ei gyrfa newyddiadurol mewn cyfnod lle nad oedd menywod yn newyddiadura, a’i barn am aflonyddu rhywiol.

 

Angharad Penrhyn Jones sy’n trafod #MeToo, yr argyfwng gwrywdod a senoffobia. Mae hi’n ystyried y cwestiwn o drais yn erbyn menywod, gwahanol agweddau’r slogan ‘Taking Back Control’, a’r adlach a welir yng Nghymru a thu hwnt wrth i ffeministiaid godi llais. Yn ei ddadansoddiad o ddamcaniaeth y niwrofiolegydd Antonio Domasio mae R Gareth Wyn Jones yn torri tir newydd gan gyflwyno i ni ffyrdd amgen o amgyffred cyflwr argyfyngus y ddynoliaeth.

 

Prifddinas pwy?

 

A'r Eisteddfod Genedlaethol ar fin dechrau yng Nghaerdydd, cawn olrhain, mewn ysgrif a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Drysorfa, profiad un o lenorion amlyca'r ddinas, Alun Llywelyn-Williams, wrth iddo gofio sut y bu iddo, yn blentyn, ddarganfod llenyddiaeth Gymraeg am y tro cyntaf. Mewn adolygiad o gyfrol ddiweddaraf Peter Finch yn y gyfres 'Real Cardiff', mae Dan Evans a Sara Huws hefyd yn troedio strydoedd Caerdydd yn gofyn y cwestiwn, ‘Prifddinas pwy?’. Ac yn ei golofn ‘Socrates ar y stryd’ mae Huw L Williams yntau yn sefyll yn yr hen Tiger Bay ac yn holi ‘Pwy yw’r Cymry?’. Y strach o drio cael pasport sy’n cael sylw Mihangel Morgan a’r hyn y mae’r broses yn ei ddadlennu am natur hunaniaeth a’r elfen fiwrocrataidd Kafkaesque sy’n bodoli yn y gymdeithas sydd ohoni.

 

Mae rhifyn Haf 2018 hefyd yn cynnwys cartŵn dystopaidd gan Boz Groden, gwaith creadigol newydd gan Eluned Gramich ac Albert Forns, colofnau Dylan Foster Evans, Emyr Ll Gruffudd a Jan Morris, a'r adolygiadau arferol o gyfrolau diweddar.

 

Yn ôl y Golygydd Cysylltiol, Angharad Penrhyn Jones, ‘Mae O’r Pedwar Gwynt yn gylchgrawn sy’n synhwyro’r cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y byd. Wrth i Gymru sefyll ar ddibyn Brexit mae’n ddadlennol iawn edrych ar brotestiadau gwleidyddol Cymraeg ac Ewropeaidd mewn cyd-destun hanesyddol ac yn ddiddorol hefyd ystyried pa mor rymus, a pheryglus, yw geiriau.’