Holi 'Dolig gydag Rhys Mwyn
Categori: Cerddoriaeth, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Mae Rhys Mwyn sy’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn yn enwog fel cerddor, cyflwynydd ar Radio Cymru ond hefyd yn archaeolegydd ac awdur. Mae'n son am ei gyfrol newydd sydd ar fin cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn ac edrych yn ôl ar flwyddyn wleiddyddol ddadleuol.
Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Dwi'n gorfod dweud mai gweld 'Lipstick Coch' gan Adwaith yn cyrraedd y brig yn y Siart Amgen oedd yr uchafbwynt, ond dwi wedi mwynhau pob eiliad o gyflwyno'r sioe radio ar Nos Lun at Radio Cymru a jest gwirioni hefo traciau newydd fel Generaduron gan Ani Glass, 2600 Oblong a Trip Traeth IAN RUSH
Beth oedd isafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Mae'r styfnigrwydd a'r diffyg synnwyr cyffredin ynglyn a Brexit yn gyrru rhywun yn benwan. Bydd 2017 yn flwyddyn lle roedd y gwleidydion yn palu nhw go iawn gan wybod yn iawn na fydd modd gwireddu y Brexit mae Theresa May yn ei addo. Calliwch rwan a stopio Brexit!
Rhowch mewn brawddeg fyr, y flwyddyn 2017.
Cerddoriaeth Wych. Gwleidyddiaeth Sal.
Sut a lle ydych chi’n dathlu’r Nadolig?
Adre yng Ngweriniaeth Cofiland - mwy na thebyg fe af am dro yn y pnawn - dwi angen fy 'awyr iach'
Eich anrheg gorau erioed?
Ohh llyfr fydda hwnna - dyna'r anhreg gora yn flynyddol - dwi a Nest wrth ein bodd yn darllen llyfrau - mae gormod o lyfrau I ddweud fod in yn well na'r llall yndoes, ond mae nofelau Llwyd Owen yn bodloni Mr Mwyn!
Oes ganddoch draddodiad arbennig dros yr Wyl?
Oes, Stwffiwch y Dolig - Ddim y Twrci - Nadolig Llysieuol yn Mwyn HQ
Hoff fwyd a diod dros yr Wyl?
Dwi ddim yn yfed goi iawn - ond mae unrhywbeth o fragdy Cwrw Llyn yn siwr o fynd yn dda hefo'r 'nut roast' !!
Unrhyw addunedau blwyddyn newydd?
Peidio cymeryd sylw o bobl negyddol arlein! Cadw'n heini.
Unrhyw gynlliuniau arbennig ar gyfer flwyddyn nesaf?
Mae dau lyfr gennyf i'w sgwennu - un ar Archaeoleg y Deheubarth ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch a'r llall yn Saesneg ar gyfer Seren - rwyf yn sgwennu 'Real Gwynedd'felly dwi angen canolbwyntio ar y sgwennu. Cario ymlaen i wella'r rhaglen radio Nos Lun.