Holi 'Dolig gydag Seimon Brooks
Categori: Chwaraeon, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Mae Seimon Brooks yn gynghorydd, academydd ac ymgyrchydd iaith. Dyma’i dro ef i ateb ein cwestiynau i gyfres Holi ‘Dolig. Fe fydd Seimon yn mwynhau’r gwyliau yn dilyn Clwb Pêl-Droed Porthmadog.
Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Llywodraeth Prydain yn gwyrdroi ei benderfyniad i symud swyddfa dreth Porthmadog i Gaerdydd. Roedd yna ymgyrch fawr gan Gyngor Tref Porthmadog, ac mae’r fuddugoliaeth yn dangos fod modd llwyddo efo dyfalbarhad.
Beth oedd isafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Penderfyniad yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi ymosodiadau Sbaen yn erbyn democratiaeth yng Nghatalwnia’n isafbwynt go-iawn. Am y tro cynta’, mi wnes i feddwl tybed a fyddai’n well i ni fel Cymry fod tu allan i Ewrop.
Rhowch mewn brawddeg fyr, y flwyddyn 2017.
Blwyddyn lai trychinebus na 2016.
Sut a lle ydych chi’n dathlu’r Nadolig?
Mi fydda i adra yn Borth-y-Gest.
Eich anrheg gorau erioed?
Bob anrheg yn hafal, wrth gwrs. Dwi’n rhoi i’r plant beth dwi eisiau cael fy hunan (fflag pêl-droed, er enghraifft) ac mae’r plant yn rhoi i mi beth maen nhw eisiau (lego Star Wars, efallai). Y rhoi sy’n bwysig, nid y derbyn, ynte.
Oes ganddoch draddodiad arbennig dros yr Wyl?
Mynd i weld Port yn erbyn Caernarfon ar yr Oval ar ddydd Gŵyl Steffan. Ac hefyd mynd i Neuadd Ogwen i gig Llareggub Brass Band.
Hoff fwyd a diod dros yr Wyl?
Menyn efo alcohol ynddo fo.
Unrhyw addunedau blwyddyn newydd?
Parhau i ymgyrchu i symud pencadlysoedd cyrff cenedlaethol i’r gogledd-orllewin fel bo’ gwaith teilwng yma. Ar yr hit-list: Comisiynydd y Gymraeg, Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, HEFCW, Estyn, S4C. Dwi ddim yn ffysi. Beth sy’n bwysig ydi fod un yn dod er mwyn i ni ddangos fod datganoli yn gweithio i bob rhan o Gymru.
Unrhyw gynlliuniau arbennig ar gyfer flwyddyn nesaf?
Dwi’n mynd efo’r mab i’r Rhyl. Mynd o achos y ffwtbol, wrth gwrs (Port awê). Aros dros nos ym Mhrestatyn i gael blas ar yr ardal, a gobeithio bydd petha’n wahanol i’r helyntion ym Mhrestatyn yn C’mon Midffîld. Dwi’n herio unrhywun i ddweud eu bod nhw’n mynd i le mwy cyffrous na’r Rhyl yn y flwyddyn newydd.