Parc Cenedlaethol Penfro eisiau eich barn am ei strategaeth iaith
Categori: Amgylchedd, Iaith, Newyddion

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn awyddus i gael barn pobl wrth iddynt lunio ei strategaeth i'r Iaith Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf.
Fe fydd y strategaeth ddrafft ar hyn o bryd yn nodi sut mae'n bwriadu hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn y Parc Cenedlaethol.
Mae'r strategaeth ddrafft yn amlinellu sut mae'r Gymraeg yn gysylltiedig â meysydd gwahanol o waith yr Awdurdod a sut y gall helpu i gysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Safonau Iaith Gymraeg, polisïau cynllunio a strategaethau iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro.
Cyfrifoldeb dros dreftadaeth y Gymraeg
Dywedodd Janet Evans, Rheolwr Gweinyddu a Gwasanaethau Democrataidd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Mae dibenion y Parc Cenedlaethol yn cynnwys cyfrifoldeb dros gadw a gwella treftadaeth ddiwylliannol yr ardal, sy'n cynnwys yr iaith Gymraeg.
"Gweledigaeth y strategaeth yw gweld yr iaith yn ffynnu ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda tharged i sicrhau cynnydd o 1% ym mhoblogaeth y Parc sy'n gallu siarad Cymraeg erbyn 2022."
Mae'r strategaeth yn amlinellu sut mae Awdurdod y Parc yn bwriadu cyrraedd y targed hwn, gan dynnu sylw at bum maes strategol: y teulu, plant a phobl ifanc, y gymuned, y gweithle a gwasanaethau Cymraeg eu hiaith.
I weld y strategaeth ddrafft, Mae cyfle i ddarllen y strategaeth yma
Mae’r Parc Cenedlaethol eisiau eich sylwadau fan bellach erbyn Mai 26 2017 trwy ebostio gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru