Holi 'Dolig gydag Dylan Ebenezer

Heddiw, yn y gyfres Holi 'Dolig, mae Lleol.cymru yn holi'r darlledydd a'r sylwebydd pêl-droed, Dylan Ebenezer a oedd wedi profi haf bythgofiadwy yn Ffrainc!
Beth oedd uchafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Dyfalwch! Euro 2016 wrth gwrs. Roedd hi'n fraint cael gweithio yn Ffrainc a chyflwyno'r gemau yn fyw ar S4C - anhygoel.
Beth oedd isafbwynt y flwyddyn i chi? ac esboniwch pam?
Ceisio ymdopi gyda bywyd bob dydd ar ôl dod gartref o Ffrainc! Roedd treulio dros mis yng nghwmni criw mor gyfeillgar a doniol yn wych - fel un stag do enfawr! Er, roedd hi'n braf gweld y teulu wrth gwrs!
Rhowch mewn brawddeg fyr, y flwyddyn 2016.
Y flwyddyn fwyaf wallgof erioed o ran digwyddiadau a marwolaethau'r mawrion. Diolch byth am y pêl droed!
Sut a lle ydych chi’n dathlu’r Nadolig?
Yng Nghaerdydd yn ein cartref newydd. Rydym wedi treulio dros 6 mis yn ceisio symud ac wedi cael trafferthion enfawr rhwng popeth - ond mae'r saga ar ben o'r diwedd.
Eich anrheg gorau erioed?
Beic BMX - Dirt Burner. Mi o ni tua 10 oed ac yn cofio Dad yn ei wthio mewn i'r tŷ yn Aberystwyth fel tase hi ddoe.
Oes ganddoch draddodiad arbennig dros yr Wyl?
Na - dim yw dim - ond wastad wedi mwynhau dolig. Ni'n ceisio cwrdd a ffrindiau o Aber sy'n byw yng Nghaerdydd am sesh bob blwyddyn. Yw hynny'n cyfri fel traddodiad?!
Hoff fwyd a diod dros yr Wyl?
Brechdannau twrci (am rhyw reswm) a Gin gyda Eldeflower...tipyn o gyfuniad.
Unrhyw addunedau blwyddyn newydd?
Jyst neud llai o bopeth sy'n wael i fi. Wedi llwyddo stopio smygu ers 6 mis erbyn hyn felly ma hynny yn un peth yn llai i boeni amdano.
Unrhyw gynlliuniau arbennig ar gyfer flwyddyn nesaf?
Ymlacio mwy a dim cysylltu gyda unrhyw estate agents a chyfreithwyr!