Prif Weithredwr Newydd Mudiad Meithrin

Dymuna Swyddogion Cenedlaethol Mudiad Meithrin gyhoeddi eu bod wedi penodi Dr Gwenllian Lansdown Davies i olynu Hywel Jones fel Prif Weithredwr newydd y Mudiad.
Mae Gwenllian Lansdown Davies yn hanu o Fangor yn wreiddiol ac erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Sir Drefaldwyn. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia cyn cwblhau gradd Meistr a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol yng Nghaerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Ar ôl cael ei hethol i Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, treuliodd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa Leanne Wood AC yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007. Ers 2011, bu’n gweithio i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel Swyddog Cyhoeddiadau ac fel Cynorthwyydd Golygyddol y cyfnodolyn Gwerddon. Mae Gwenllian yn ymwneud â nifer o fudiadau gwirfoddol fel Cylch Llên Maldwyn, Merched y Wawr ac Archif Wleidyddol y Llyfrgell Genedlaethol. Mae ganddi ddwy ferch fach ac mae’n byw gyda’i gŵr, Arwyn Groe, ar fferm ym mhentref Llanerfyl.
Meddai Gwenllian:
“Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy mhenodi i’r swydd hon a gweithio i Fudiad sydd yn rhan mor allweddol o fywyd Cymru. Ble bynnag mae ‘na blant, fe ddylai’r Mudiad – ac felly’r Gymraeg – fod yno er mwyn cynnig cychwyn cadarn i blant bach ar ddechrau siwrne anturus bywyd”.
Bydd Gwenllian yn ymgymryd ag awennau’r Mudiad ar 1af Medi er y bydd yn cysgodi’r Prif Weithredwr presennol am gyfnod cyn hynny. Bydd Hywel Jones, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr ar y Mudiad ers 1993 yn ymddeol ddiwedd mis Awst eleni.
Ffynhonnell: Gwefan Mudiad Meithrin
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net