Dathlu #ShwmaeSumae

18/10/2016

Categori: Iaith, Newyddion

Dathlwyd diwrnod Shwmae Su’mae led-led Cymru ddydd Sadwrn, gyda degau o gymunedau yn cynnal eu gweithgareddau unigryw o goginio cacennau i weithgareddau i ddysgwyr.

Cynhaliwyd nifer o weithgareddau o Fôn i Fynwy, o Sir Fflint i Abertawe, roedd cymunedau’n dathlu’r Iaith Gymraeg.  Ym Mangor, fe ddathlwyd y diwrnod, gyda agoriad canolfan Gymraeg newydd Popdy yn y ddinas. 

 

Ymhlith y digwyddiadau eraill, bu rhieni yn gwthio pramiau a sgwrsio yn y Gymraeg o gwmpas Llyn y Rhath. Fe fu eraill yn cynnal boreau coffi o Wrecsam i Gaerffili, gyda dysgwyr o Benfro i Landrindod yn ymarfer eu Cymraeg. Roedd noson cawl â chân yn Nolgellau a Choctels Shwmae yn cael eu hyfed yng Nghaerdydd. Fe roedd sawl busnes yn cynnig disgownt i gwsmeriaid sy’n dweud Shwmae.

 

Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o’r gweithgareddau fu’n digwydd: