Deiseb yn denu dros 1,000 o enwau

15/07/2016

Categori: Chwaraeon, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae deiseb sy’n galw am wrthod unrhyw gais gan y teulu brenhinol i gynnal derbyniad ar gyfer tim pêl-droed Cymru wedi denu dros 1000 o enwau.

Cafwyd adroddiadau ddechrau’r wythnos fod y teulu brenhinol am wahodd tîm pêl-droed Cymru i’r palas, ond daeth ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol gan gefnogwyr Cymru yn cynnwys band pres poblogaidd y Barry Horns. 

 

Mae’r ddeiseb yn nodi, "Fel cefnogwyr sydd wedi dilyn tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru mewn ysbryd ac yn gorfforol yn ystod y misoedd diwethaf anhygoel, a'r blynyddoedd llai anhygoel, gofynnwn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru i wrthod yn gwrtais ac yn breifat unrhyw wahoddiad a wnaed gan y frenhiniaeth Brydeinig yn ôl ein llwyddiant diweddar."

 

Cymeradwyaeth ddiangen

 

Fe wnaeth Tywysog William anfon cyfarchion at dîm Lloegr ar ddechrau’r twrnameint Ewro 2016 ond ni anfonodd i Gymru, ac mae nifer o gefnogwyr Cymru yn teimlo fod y teulu brenhinol yn manteisio ar lwyddiant y tîm cenedlaethol, "Ni chwaraeodd y sefydliad hwn unrhyw ran mewn creu llwyddiant y tîm, ac felly mae ei gymeradwyaeth yn ddiangen ac yn amhriodol, ac ni ddylent gael yr hawl i ddefnyddio'r digwyddiad ar gyfer eu dibenion cyhoeddusrwydd ei hun, yn groes i ddymuniadaur llawer iawn o gefnogwyr."

 

Gellir canfod y ddeiseb yma.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru