Y Ddraig Goch wedi'i gwahardd yn yr Eurovision

03/05/2016

Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion

Ni fydd y Ddraig Goch yn ymddangos o gwbl yng nghystadleuaeth yr Eurovision am ei bod wedi’i gwahardd o'r gystadleuaeth.

Mae rhestr penodol o faneri wedi eu gwahardd o’r arena yn cynnwys baner Palesteina, Gwlad y Basg, y wladwriaeth IS ac yn ol Eurovision y bwriad yw ‘sicrhau nad oes negeseuon gwleidyddol neu ymosodol yn cael eu cyfleu". Fe gynhelir y gystadleuaeth ym mhrifddinas Sweden, Stockholm nos Sadwrn Mai 14eg. 

 

O ganlyniad ni fydd gan gefnogwyr y Cymro Cymraeg o Ruthun, Joe Woolford sy'n rhan o ddeuawd yn cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth, hawl i chwifio’r faner. 

 

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eurovision, "Mae'n bwysig datgan nad yw'r polisi baneri wedi ei anelu yn erbyn tiriogaethau na sefydliadau penodol, ond mae'n rhaid sicrhau bod y darllediad yn rhydd o negeseuon gwleidyddol," meddai llefarydd.

 

Maent hefyd yn "ymddiheuro os ydyn nhw wedi pechu unrhyw un mewn unrhyw ffordd".