Colli cyfle i wneud y Gymraeg yn iaith gwaith

25/04/2016

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae polisi iaith newydd arfaethedig gan gyngor Ynys Môn yn peryglu defnydd o'r Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fe roedd cynghorwyr Ynys Môn yn trafod mabwysiadu polisi iaith newydd heddiw a fyddai'n golygu rhoi statws swyddogol i'r Saesneg. Mewn llythyr at y cyngor, mae'r mudiad iaith yn rhybuddio bod y polisi yn camddeall ac yn camddehongli'r ddeddfwriaeth iaith ddiweddaraf, Mesur y Gymraeg 2011. 

 

Dyw'r ddeddfwriaeth iaith a ddaeth i rym yn 2011 ond yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg, ac mae'n sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Fodd bynnag, mae polisi arfaethedig Ynys Môn yn rhoi statws swyddogol i'r Saesneg ac yn datgan y dylid trin y ddwy iaith yn gyfartal.

 

Mewn llythyr at arweinydd Cyngor Ynys Môn, mae Menna Machreth, cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar y Cyngor i gywiro'r gwallau ac i gydio yn y cyfle i wneud y Gymraeg yn iaith gwaith swyddogol: "Ymddengys eich bod yn camgymryd hen egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o drin y ddwy iaith ar sail 'cydraddoldeb', yn hytrach na 'pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg' fel sy'n ofynnol gan y Mesur Iaith cyfredol...Mae'n amlwg fod y camgymeriad hwn wedi digwydd am i [gymalau'r polisi] gael eu cymryd yn syth o'ch hen Gynllun Iaith – heb eu haddasu i'r fframwaith cyfreithiol presennol.’

 

"Mae'n hanfodol bwysig felly fod y Polisi – sy'n ymgorffori'r cyfrifoldebau newydd sydd arnoch o dan y Mesur – yn llawn gydnabod ac yn adlewyrchu fframwaith cyfreithiol cyfundrefn Safonau'r Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn hyn o beth, hoffwn dderbyn cadarnhad y byddwch yn cywiro'r gwallau hyn ar unwaith, gan sicrhau bod yr arweiniad cywir a diweddaraf ar gael i alluogi swyddogion ac Aelodau'r Cyngor i gydio ynddo i'w arfogi gyda'r gweithredu, gan roi blaenoriaeth i hyrwyddo'r Gymraeg yn eu gwaith.’

 

Tanseilio

 

Caiff y Cyngor ei feirniadu hefyd gan fod ei bolisi iaith arfaethedig yn gofyn i fudiadau Cymraeg gyflwyno gohebiaeth ysgrifenedig i gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg: "Ni ddylech ... danseilio defnydd cymunedol y Gymraeg drwy orfodi'r Saesneg ar fudiadau Cymraeg, drwy fynnu bod pob adroddiad a dogfennaeth a gyflwynir i gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn ddwyieithog – a hynny mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith y mwyafrif..."

 

"... Byddai unrhyw Bolisi gan y Cyngor sy'n tanseilio defnydd y Gymraeg, yng ngoleuni cyfundrefn gyfreithiol newydd sydd wedi'i chynllunio gyda'r nod o hyrwyddo hynny, yn gwbl annerbyniol. Mae dyletswydd arnoch i barhau i gynnig arweiniad i sefydliadau cyhoeddus a phreifat ym Môn a thu hwnt o ran sut y dylid mynd ati'n frwd i hyrwyddo'r Gymraeg, ac edrychwn i dderbyn cadarnhad ar fyrder mai dyma a wnewch."

 

Mae'r mudiad iaith wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd gyda phryderon tebyg am eu polisi iaith newydd hwythau yn dilyn dadl ddiweddar yn y sir honno.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru