Clawr Cymraeg i gêm electronig UEFA Euro 2016

21/04/2016

Categori: Chwaraeon, Iaith, Newyddion

Mae cwmni gemau adnabyddus wedi creu clawr Cymraeg ar gyfer gêm swyddogol electronig Pencampwriaethau UEFA Euro 2016 yn Ffrainc.

Mae Cwmni Konami Digital Entertainment B.V. wedi creu’r clawr ar gyfer ei gêm drwyddedig swyddogol UEFA EURO 2016 sydd ar gael nawr ar gyfer PlayStation®4 a PlayStation®3. Mae modd llwytho’r clawr i lawr yn ddi-dâl ac mae’n cynnwys asgellwr byd-enwog y tîm cenedlaethol, Gareth Bale.

 

Mae Bale, seren tîm cenedlaethol Cymru yn ystod Gemau Rhagbrofol y Bencampwriaeth, yn rhan o bob pecyn neu ddeunydd hyrwyddo ar gyfer gêm swyddogol UEFA EURO 2016 KONAMI.

 

I lawrlwytho’r clawr, sydd wedi cael ei gyfieithu’n gyfan gwbl i’r Gymraeg, yr oll sy’n rhaid i gefnogwyr Cymru ei wneud yw mynd yma . 

 

Dyma'r tro cyntaf i KONAMI gynhyrchu elfen leol i Gymru, ac mae’n glod i'r ffaith bydd y tîm yn cymryd rhan mewn prif bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd. Mae’r asgellwr yn chwarae rôl allweddol i’w glwb, Real Madrid, sy’n cystadlu yn La Liga Sbaen, a bydd ei gyflymder a’i sgiliau i’w gweld yn Ffrainc pan fydd yn cymryd ei le yng ngharfan Cymru. Mae tîm Cymru, ynghyd â'r citiau swyddogol, wedi cael eu hail-greu’n fanwl yng ngêm UEFA EURO 2016 KONAMI.

 

Mae Bale hefyd yn rhan amlwg o’r llawer eitem ychwanegol sydd ar gael i bobl sy’n anghyfarwydd â chyfres bêl-droed KONAMI. Bydd gan y rheini sy’n prynu’r copi caled o’r gêm UEFA EURO 2016 gyfle i ddefnyddio Bale yn nodwedd myClub y gêm drwy'r cynnwys ychwanegol sydd ar gael yn arbennig iddyn nhw. Nodwedd hynod boblogaidd yn PES 2016 yw myClub, sy’n galluogi defnyddwyr i ddefnyddio pwyntiau maen nhw wedi eu casglu, neu drafodion micro yn y gêm, er mwyn adeiladu tîm o’r safon uchaf a’i arwain i lwyddiannau lu. 

 

Mae'r copi caled yn cynnwys gêm lawn PES 2016 a chynnwys UEFA EURO 2016. Mae UEFA EURO 2016 yn cynnwys nodweddion eiconograffiaeth a chyflwyniadol llawn y bencampwriaeth eleni.

 

Tynnu sylw at lwyddiant Cymru

 

“Gareth Bale yw un o’r chwaraewyr mwyaf gwerthfawr ac enwog ym myd pêl-droed, ac roedden ni’n awyddus i dynnu sylw at lwyddiant Cymru yn cyrraedd y bencampwriaeth mewn ffordd arbennig,” dywedodd Erik Bladinieres, Cyfarwyddwr Brand Ewropeaidd Pêl-droed gyda Konami Digital Entertainment B.V. 

 

Ychwanegodd, “Bydd Gareth yn sir o chwarae rhan allweddol i Gymru yn y bencampwriaeth, ac rydyn ni’n gwybod y bydd pawb yng Nghymru yn cefnogi'r tîm i’r carn. Rydyn ni’n falch iawn o gael Gareth yn rhan bwysig o’n cynnwys ar gyfer UEFA EURO 2016 ac yn gobeithio bydd cefnogwyr Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y clawr arbennig hwn.”