Cordia yn curo yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

01/04/2016

Categori: Cerddoriaeth, Newyddion

Ar ôl concro Cymru fis diwethaf, mae Cordia a enillodd Cân i Gymru wedi cipio’r wobr gyntaf yn yr Ŵyl Ban Geltaidd a gynhaliwyd yn yr Ynys Werdd.

Daeth y band ifanc poblogaidd i'r brig yng nghystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau gyda 'Dim Ond Un' yn yr ŵyl yn Carlow, Iwerddon, nos Iau.

 

Roedd y band o Ynys Mon wedi selio eu lle yn yr Wyl Ban Geltaidd ar ol iddynt ennill calonnau’r cyhoedd yng Nghymru yng nghystadleuaeth Cân i Gymru a gynhaliwyd fis diwethaf. 

 

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, fe ddywedodd y grŵp, "Mi roedd ennill Cân i Gymru yn anhygoel, ond i ennill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, waw!

 

Ychwanegodd, ‘Da ni'n falch o ddod a'r wobr yn ôl i Gymru!"

 

Dyma fideo o'r perfformiad buddugol ar Cân i Gymru: