Cyrsiau oedolion at ddant pawb
Categori: Addysg, Ar-lein, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Iechyd

Cyrsiau oedolion at ddant pawb
Mae Cyrsiau Oedolion Menter Caerdydd yn cychwyn diwedd mis Medi, ac efallai bod rhywbeth ymysg yr holl gyrsiau fydd o ddiddordeb i chi.
Er bod y Cyngor eisoes yn trefnu cyfres helaeth o wersi i oedolion, mae’r Fenter yn gyfrifol am ddosbarthu llu o ddosbarthiadau gyda’r nos i drigolion Caerdydd drwy’r iaith Gymraeg.
Mae’r cyrsiau yn amrywiol iawn ac mae rhywbeth i bawb, boed chi’n ffanatig ffitrwydd, yn grefftwr o fri, neu’n mwynhau dysgu ieithoedd newydd.
Os ydych chi’n mwynhau cadw’n heini, mae gan Menter Caerdydd nifer o wersi yn cychwyn ym mis Medi gan gynnwys 3 cwrs Pilates, cwrs Bŵt Camp Dan Do a chwrs Cadw’n Heini i rai dros 55 oed. Mae’r gwersi’n hynod boblogaidd gan eu bod yn ffordd hwyl a chymdeithasol o gadw’n heini, ac yn barod mae tri o’r cyrsiau wedi eu llenwi!
Mae cyrsiau hefyd i rai sy’n mwynhau gweithio gyda’i dwylo. Bydd y seramegydd Eluned Glyn yn rhedeg Cwrs Cerameg 10-wythnos, lle byddwch yn cael y cyfle i greu potiau wedi eu pinsio, gwaith cerfluniol, darnau â slab, gwaith teils, gemwaith porslen ac addurniadau Nadolig.
Bydd Siwan Hill yn dychwelyd gyda’i chwrs 10-wythnos hynod boblogaidd- Cwiltio, Clytwaith, Gwnïo a Gwau. Cyfle i chi greu ac addasu dillad a phethau i'r cartref. Efallai eich bod chi eisiau gwnïo clustog i'r cartref, gwau tea cosy i'ch tebot, neu greu bynting i briodas. Os felly, dyma'r cwrs perffaith i chi.
Bydd Haf Hayes, Bacws Haf, yn rhedeg cwrs Pobi Cartref 5-wythnos, lle bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i bobi bara, cacennau o fri, tartennau a phwdinau crand.
Efallai eich bod chi eisiau dysgu sut i greu gwefan, efallai i chi’ch hunain neu ar gyfer eich busnes. Os felly, pam na ddewch chi ar gwrs 10-wythnos Menter Caerdydd ar Sut i Greu Gwefan drwy ddefnyddio Wordpress gydag Angharad Dalton. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu sgiliau ‘blogio’ a sut i adeiladu presenoldeb cryf ar-lein drwy ddefnyddio Wordpress.com.
Os ydych chi’n un sy’n mwynhau ‘sgwennu, beth am gofrestru ar ein cwrs Cynganeddu i Ddechreuwyr gydag Emyr Davies neu’r cwrs Cynganeddu: Ymarfer y Grefft gydag Osian Rhys a Rhys Iorwerth. Mae’r cyrsiau’n gyfle gwych i ddysgu ac ymarfer sut i gynganeddu, a bydd cyfle i ennill cadair arbennig yn Eisteddfod Ysgol Farddol Menter Caerdydd ar ddiwedd y cwrs.
Efallai eich bod chi eisiau dysgu iaith newydd? Bydd Sioned Lewis yn arwain cwrs Sbaeneg i Ddechreuwyr dros 10-wythnos, cyfle perffaith i herio eich hun a thrio rhywbeth newydd!
Yn arbennig iawn flwyddyn yma, byddwn yn rhedeg cwrs Clocsio i Oedolion am y tro cyntaf gyda seren S4C, Tudur Phillips. Yn ystod y cwrs 8 wythnos byddwch yn dysgu amryw o dechnegau a dawnsfeydd clocio gyda’r clociwr o fri.
Mae’r cyrsiau ar gyfer oedolion o bob oedran a lefel, ac yn ffordd wych o gymdeithasu drwy’r Gymraeg gyda thrigolion eraill y ddinas. “Dw i wrth fy modd gyda chyrsiau Menter Caerdydd, a dros y blynyddoedd wedi mynychu cwrs Sbaeneg, Ffotograffiaeth a Gwnïo. Maen nhw’n gyfle gwych i gymdeithasu wrth ddysgu sgil newydd, a dwi’n edrych ymlaen yn arw at gychwyn y cwrs cerameg eleni.” Ceren Roberts, Grangetown.
Mae’r cyrsiau ffitrwydd yn cychwyn o Fedi 15 ymlaen, a phob cwrs arall o Fedi 25 ymlaen, ac mae’r holl gyrsiau ar gael am hanner pris i fyfyrwyr.
Am ragor o wybodaeth ar unrhyw un o’r cyrsiau, neu i archebu lle ewch i http://bit.ly/cyrsiau-oedolion neu cysylltwch â Sara Jones sarajones@mentercaerdydd.org.
Rhestr Cyrsiau Oedolion Menter Caerdydd – Tymor yr Hydref
Pilates i Ddechreuwyr gyda Catrin Ahmun - LLAWN
5yh-6yh, Iechyd Da, Medi 15 am 10 Wythnos £45 - http://bit.ly/Pilates-Sul
Pilates Ffitrwydd gyda Catrin Ahmun - LLAWN
7yh-8yh, Iechyd Da, Medi 18 am 10 Wythnos £45 - http://bit.ly/Pilates-Ffitrwydd
Bŵt Camp gyda Catrin Ahmun - LLAWN
7yh-8yh, Iechyd Da, Medi 19 am 10 Wythnos £45 - http://bit.ly/bwtcamp
Cadw’n Heini 55+ gyda Siân Thomas
10.30yb-11.30yb, CH Llanisien, Medi 25 am 10 wythnos £40 - http://bit.ly/Heini55
Sbaeneg i Ddechreuwyr gyda Sioned Lewis
7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Medi 25 am 10 wythnos £80 - http://bit.ly/Sbaeneg
Cwiltio, Clytwaith, Gwnïo a Gwau gyda Siwan Hill
7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Medi 25 am 10 wythnos £80 - http://bit.ly/gwnio
Adeiladu Gwefan Wordpress gydag Angharad Dalton
7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Medi 25 am 10 wythnos £80 - http://bit.ly/cwrs-wordpress
Cwrs Cerameg gydag Eluned Glyn
7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Medi 25 am 10 wythnos £80 - http://bit.ly/CwrsCerameg
Cwrs Pobi Cartref gyda Haf Hayes
7yh-9yh, Ysgol Plasmawr, Medi 25 am 5 wythnos £40 - http://bit.ly/pobi-medi
Cwrs Clocsio gyda Tudur Phillips
7.15yh-8.15yh, Neuadd Eglwys Santes Catherine, Pontcanna, Medi 26 am 8 Wythnos £40 - http://bit.ly/cwrsclocsio
Cynganeddu i Ddechreuwyr gydag Emyr Davies
7yh-9yh, Lleoliad i’w gadarnhau, Hydref 8 am 10 wythnos £80 - http://bit.ly/Cynganeddu-dechreuwyr
Cynganeddu- Ymarfer y Grefft gydag Osian Rhys Jones a Rhys Iorwerth
7yh-9yh, Lleoliad i’w gadarnhau, Hydref 8 am 10 wythnos £80 - http://bit.ly/Cynganeddu-Ymarfer
*GOSTYNGIAD HANNER PRIS I FYFYRWYR AR BOB CWRS*
Am fwy o wybodaeth:
Sara Jones
02920 689888
sarajones@mentercaerdydd.org