Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r Eos. Gan John Pierce Jones

06/03/2013

Categori: Barn, Celfyddydau, Cerddoriaeth

Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r Eos. Gan John Pierce Jones

Mae dyddiadur dechrau blwyddyn y Dyn Mynd a Dwad yn cofnodi ei fod eisoes eleni wedi ymddiddori yn rhywioldeb y Frenhines Fictoria ac wedi tynnu cerddorion i’w ben.

 

Ar ôl dychwelyd o Fôn i’r brifddinas i groesawu’r Flwyddyn Newydd, cefais hi’n anodd ailafael yn fy ngwaith. Profiad digon cyffredin reit siwr. Mae gen i domen o waith ysgrifennu ac mae’r dyddiad y cytundebais i’w gwblhau yn dod yn nes ac yn nes. Ar ben hynny mae gen i ddau arholiad morwrol i’w sefyll mewn rhyw dair wythnos. Yn lle torchi llewys a mynd ati rhag blaen dwi’n gwneud pob dim ond agor y cyfrifiadur. Gwyliaf ffilmiau ‘Carry On’ yn y pnawniau. Gwnaf unrhyw beth a phopeth i ohirio gweithio.

 

Cefais flas anghyffredin, rhaid cydnabod, ar gyfres o dair rhaglen ar BBC2 am blant y Frenhines Fictoria. Agoriad llygaid i riant modern fel fi – wel, dwi’n fy nghysuro fy hun mai un felly ydw i – oedd canfod bod Fictoria yn colbio’r plant yn ddidrugaredd, a’u chwipio nes torri’r croen. Roedd hi’n eu casáu. Pan oedden nhw’n fabanod cyffelybai hi nhw i lyffantod. Ac eto roedd hi’n planta’n ddi-baid, un ar ôl y llall. Ei gorhoffter o ryw oedd y rheswm am hynny. Doedd dim digon i’w gael iddi, meddai’r un a ddylai wybod. Cwynai Albert, ei gwr lluddedig, mewn llythyrau a dyddiaduron am ei harchwaeth anniwall. Ond er cymaint roedd hi’n caru rhyw roedd Fictoria’n casáu genedigaethau ac yn teimlo bod y broses yn ei gwneud hi’n debyg i fuwch neu ast. Cyflogai famaeth i roi sugn i’w phlant rhag iddi hi orfod gwneud hynny ei hun. Ymhen rhai wythnosau, piciai Fictoria draw unwaith y dydd i gael cip arnyn nhw, yn null ffermwr yn pwyso dros y giât i fwrw golwg dros ei loi. Calon oer. Nwydau eirias. Dyna i chi Fictoria, eilun Ceiriog a’r Bardd Cocos. Nid bod BBC2 yn gwybod hynny.

 

Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r Eos

Fel y gwelwch chi rydw i wedi mynd yn eithaf caeth i’r teledu. Trwy chwynnu a theneuo gwelais ambell raglen nodedig, yn eu plith berlau bychan yn y Gymraeg fel Dim Byd a’r Stiwdio Gefn efo Lisa Gwilym. Mae Lisa’n cyflwyno grwpiau a chanwyr inni, yr hen a’r newydd. Mwynheais yn fawr y rhaglen gyntaf. Ynddi roedd Huw Chiswell ar ei orau. Mae Huw yn un o’m cyfeillion agosaf. Efallai, felly, fy mod yn rhagfarnllyd. Ond, wir, mae ei ganeuon yn arbennig iawn, iawn. Yn sicr mae o’n un o’n cyfansoddwyr gorau, y fo a ’nghyfaill arall, Emyr Huws Jones. Gallwn wrando ar eu campweithiau drwy’r dydd. Nhw a llawer rhagor – Bryn Fôn, Dafydd Iwan, Gai Toms… Mae’r rhestr yn ddiddiwedd, bron. Rydan ni’n gyfoethog mewn doniau cerddorol ym mhob maes.

 

Ond dawn yr ydw i’n llwyr amddifad ohoni ydi’r ddawn honno. Dwi’n genfigennus o’m cyfeillion cerddorol. Ceisiais innau ganu mewn cylchwyl yn y capel yn Niwbwrch unwaith, a finnau ond rhyw bedair oed. Doedd neb wedi llawn ddeall cyn hynny nad oeddwn i’n medru canu nodyn. Pan gyrhaeddais adref ar ôl yr ymarfer cyntaf, bu’n rhaid i mi roi datgeiniad gerbron y teulu. Fy Nhaid oedd y cyntaf i fynegi’r caswir am fy mherfformiad. Medrodd ddal tan gychwyn yr ail bennill. Ond ddim mymryn rhagor.
‘Fedar yr hogyn bach yma ddim canu,’ dyfarnodd Taid. ‘Mesur coes rhaw sydd gan y creadur.’ Sgen i ddim syniad hyd heddiw be yn union ydi mesur coes rhaw. Ond nid teyrnged mohono. Fe wn i hynny.

 

A di-gerddoriaeth iawn fu tonfeddi Radio Cymru yn ystod 2013. Yn union fel y gwnaeth Dafydd Wigley yn ei ddatganiad o gefnogaeth i EOS, yr asiantaeth hawlfreintiau cerddorion, rwyf finnau am ddatgan diddordeb. Mae gen i frawd, Owen, yn chwarae efo Enw Da, Geraint Løvgreen, a dau nai, Tomos a Siôn, yn aelodau amlwg o Bandana. Ond dwi ddim yn siwr pa mor frwdfrydig â hynny ydw i dros achos EOS a’r cerddorion. Rwyf wedi mynegi fy marn yn gyhoeddus eisoes ar y gwefannau cymdeithasol. (Doedd Taid ddim yn hollol gywir. Dwi’n gallu trydar yn ddeheuig iawn.) Ond yn union fel ag yr oedd hi yn Niwbwrch fy mhlentyndod, chafodd fy nhrydar fawr o groeso. Pechais gyfeillion gan beri iddyn nhw bellhau.

 

Roedd dadl wreiddiol y cerddorion a’r cyfansoddwyr efo’r PRS (Performing Rights Society), asiantaeth oedd yn casglu arian hawlfreintiau cerddorol drwy wledydd Prydain. Am flynyddoedd lawer bu’n briodas hapus iawn rhwng yr aelodau Cymraeg a’r Gymdeithas. Ac un lewyrchus hefyd o safbwynt y Cymry. Roedd rhai – a nhw ddywedodd hyn – yn derbyn o £20,000 hyd at £30,000 y flwyddyn drwy law’r Gymdeithas. Cyfaddefai llawer yn ddistaw bach eu bod nhw ar dir sigledig. Nid yn unig telid arian da iddyn nhw bob tro y chwaraeid eu caneuon ar y radio ond derbynient hefyd gyfran o’r incwm a ddeilliai o’r juke box, y bar karaoke, ac amrywiol fannau cyhoeddus megis tafarndai, gwestai, siopau ac yn y blaen. Doedd nemor ddim o waith y cerddorion Cymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y llefydd hyn. Ond roedden nhw’n dal i gael eu talu. Canfu’r PRS hyn a bu’n rhaid ailddosbarthu’r tâl yn unol â’r defnydd. Felly, mae llawer wedi colli incwm sylweddol. Dyna asgwrn y gynnen.

 

Mae cryn dipyn o’r dadlau o blaid EOS wedi cael ei seilio ar dir ‘moesol’. Pam y dylai cymdeithas o Lundain negydu drosom ni’r Cymry? Wel, ie. Ond roedd y Gymdeithas Brydeinig honno’n plesio siort orau pan oedd y fuwch aur yn llaethog ac yn godro’n dda ar ein rhan ni. Hefyd galarnadwyd bod cerddorion Cymraeg yn gorfod byw ar fara sych a dwr. Tydyn nhw ddim! Mae gan ganran uchel iawn ohonyn nhw swyddi eraill. Hobi ydi cerddoriaeth. Pres poced. Mae rhai, chwarae teg, wedi defnyddio’r arian i helpu’r ifanc ddysgu eu crefft. Rhaid dweud hefyd mai’r cerddorion a oedd yn ennill arian mawr oedd y rhai mwyaf poblogaidd, pobol a oedd yn tueddu i fyw ar eu crefft.

 

Plîs, plîs peidiwch, da chi, â chwyno fel y gwnaeth yr Arglwydd Wigley fod ‘hyd yn oed’ cerddorion y gwasanaeth Asiaidd yn cael mwy o bres na’r Cymry. Wel, ydyn siwr. Mae llawer iawn mwy yn gwrando arnyn nhw, o Arglwydd. Nid o enau Dafydd Wigley y disgwyliwn glywed cwyn o’r fath. Gweddai’n well i Nick Griffin o’r BNP, creadur gwahanol iawn ei anian a’i athroniaeth i lywydd anrhydeddus Plaid Cymru.

 

Mae arian yn dynn yn y byd darlledu Cymraeg. Rhaid llunio’r wadan fel bo’r troed. Rydan ni i i gyd wedi gorfod cymryd gostyngiad sylweddol yn ein henillion. Darfu’r dyddiau pan lifeiriai’r Gymru gyfryngol o laeth a mêl. Ac nid cyfrifoldeb radio a theledu ydi rhoi bywoliaeth inni yn unig oherwydd ein bod ni’n perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ond, atolwg, mae gen i ateb i’r broblem. Mae cwyno beunyddiol, bron, bod gormod o ‘blwming canu’ ar Radio Cymru. Yn fy marn i, mae rhaglenni Tudur Owen yn well o lawer heb record bob yn ail funud. A sawl rhaglen arall hefyd o ran hynny. Cadarnhawyd bod sail i’r cwynion. Cyhoeddwyd yn swyddogol bod 40% o gynnyrch Radio Cymru’n gerddoriaeth. A llawer ohono o safon isel iawn. Yr ateb amlwg, felly, ydi rhoi rhagor o arian hawlfraint i’r cerddorion ond torri’r ganran o gerddoriaeth a chwaraeir i 25%. Pawb yn hapus!

 

Ar ôl cael cystal hwyl ar ddatrys anghydfod EOS, esboniaf y tro nesaf sut mae mynd i’r afael â chynhesu byd eang, y dirwasgiad a therfysgaeth ryngwladol.

 

Ffynhonnell: Barn