Diwrnod y Llyfr 2013
Categori: Addysg, Celfyddydau, Newyddion

Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau , 07 Mawrth.
Cefnogaeth Enwogion
Aled Sion Davies, enillydd dwy fedal yn y Gêmau Paralympaidd, a’r nofwraig Olympaidd Georgia Davies, yw wynebau newydd Diwrnod y Llyfr 2013 yng Nghymru.
Yn dilyn eu llwyddiant anhygoel yn eu gwahanol gampau yn 2012, mae’r ddau wedi cytuno i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch ddarllen flynyddol bwysig hon yng Nghymru.
Bydd dros 10,000 o bosteri Diwrnod y Llyfr yn dangos delweddau o’r athletwyr yn cael eu dosbarthu trwy Gymru benbaladr yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 7 Mawrth.
Mwy yma