Croesawu Meri’n Gomisiynydd Ond Aneglurder o Hyd

29/11/2011

Categori: Celfyddydau, Newyddion

Wrth benodi Meri Huws i swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn un o’r ffasiynau rhyngwladol diweddaraf ym maes polisi iaith. Mae Iwerddon bellach wedi ailbenodi ei An Coimisináir Teanga am ail dymor o chwe mlynedd, cymaint fu llwyddiant Sean O’Cuirreáin yn ei dymor cyntaf. Mae’n ymddangos fod Canada hithau yn fodlon â Graham Fraser, cyn-newyddiadurwr rhadlon yr olwg sydd wedi bod yn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol y wlad am bum mlynedd bellach. Ef yw’r chweched i gael ei benodi i’r swydd, sydd wedi bod yn rhan annatod o gymdeithas sifig Canada er 1970.

 

Yn wir, pe bai Ms Huws yn dymuno efelychu rhywun yn ei misoedd cyntaf, gallai wneud yn llawer iawn gwaeth na dilyn patrwm rhagflaenydd Mr Fraser, Dr Dyana Adam, a fu’n drwm ei beirniadaeth o ddihidrwydd llywodraeth Canada tuag at gydraddoldeb ieithyddol. Iddi hi, yr oedd deuoliaeth ieithyddol Canada wrth wraidd yr hunaniaeth genedlaethol, a gwae unrhyw asiantaeth ffederal a anghofiai hynny.

Nid oes dim yn arbennig o arloesol, felly, ym mhenderfyniad Llywodraeth Cymru i benodi Comisiynydd ar gyfer y Gymraeg. Ond crintachlyd fyddai wfftio’r syniad ar y sail honno’n unig. Mae profiad Canada yn awgrymu bod materion ieithyddol yn cael eu gwyntyllu’n amlach ar lefel genedlaethol os yw’r un unigolyn yn codi ei ben dro ar ôl tro i warchod buddiannau’r iaith leiafrifol. O ganlyniad, bydd llwyddiant neu fethiant y swydd yng Nghymru yn dibynnu’n drwm ar allu Ms Huws i fynnu sylw’r cyfryngau.

 

Un o brif wendidau’r Bwrdd Iaith presennol yw nad oes un wyneb amlwg yn gysylltiedig â hyrwyddo’r Gymraeg, er gwaethaf yr hierarchaeth fewnol. Cast bychan o gymeriadau sy’n mynnu lle cyson ar y llwyfan gwleidyddol. Corws cefndirol, ar y cyfan, a fu aelodau’r Bwrdd, a bydd angen i Ms Huws fynnu ei lle ymysg y prif actorion.

Nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid i’r Bwrdd yn ei gyfanrwydd adael y llwyfan. Mae’r ansicrwydd yn parhau yngl?n ag union ffurf swyddfa’r Comisiynydd, ond ffwlbri fyddai ffarwelio yn ei gyfanrwydd â’r arbenigedd ymysg swyddogion y Bwrdd o safbwynt cynllunio ieithyddol.

 

Tasg fawr gyntaf y Comisiynydd newydd fydd cychwyn ar y gwaith o benderfynu ar y ‘safonau’ y bydd disgwyl i gyrff penodol gadw atynt, proses hirwyntog a manwl nad yw’n debygol o hoelio sylw’r cyhoedd. Ar yr un pryd, bydd disgwyl i’r Comisiynydd ymchwilio i unrhyw honiad nad yw’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael ei barchu, ac i gofleidio’r dyletswydd cyffredinol sydd arni i hyrwyddo’r Gymraeg. Nid swydd ar gyfer un ddynes yn unig mohoni, a dichon mai brwydr gyntaf Ms Huws fydd ceisio sicrhau, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, y bydd ganddi adnoddau digonol i gyflawni ei dyletswyddau statudol sylweddol.

 

Dengys y disgrifiad byr hwn o waith arfaethedig y Comisiynydd fod y swydd, fel y Mesur Iaith a roddodd enedigaeth iddi, yn aneglur yn syniadol. Awgrymais eisoes ar y tudalennau hyn nad oes un syniadaeth glir yn llywio’r Mesur, ac felly hefyd swydd y Comisiynydd. Rhyfedd, a dweud y lleiaf, yw disgwyl iddi benderfynu ar y safonau, gwrando ar apeliadau gan gyrff yn erbyn y safonau, ac yna orfodi’r safonau hefyd maes o law ar y cyrff perthnasol. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad polisi bellach wedi ei wneud a gwleidyddion, nid y Comisiynydd a’i swyddogion, sydd i’w beio am hynny.

 

Fel pob cyfundrefn newydd, profiadau pobl ohoni fydd yn fwyaf tebygol o arwain at newidiadau hir-dymor. Mae’n ddyletswydd arnom i gefnogi’r Comisiynydd yn ei hymdrechion i ddod i delerau â’i phwerau newydd, ac i chwarae ein rhan yn yr ymdrech i ddiffinio’r pwerau hynny’n well yn y Mesur Iaith nesaf. Un o fendithion datganoli yw na fydd yn rhaid disgwyl ugain mlynedd arall cyn y bydd tynged y Gymraeg yn mynnu sylw deddfwriaethol eto.

 

Ffynhonnell

Logo Barn

Gwion Lewis