Cyfle profiad gwaith i berson ifanc rhwng 18 a 25 oed
Categori: Hyfforddiant / Cyrsiau

HYSBYSEB PROFIAD GWAITH
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am greu cyfle profiad gwaith i berson ifanc rhwng 18 a 25 oed i ymuno â thîm safle'r digwyddiad am gyfnod o wyth wythnos dros yr ŵyl.
Ydych chi erioed wedi eisiau gwybod beth sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni? Ydych chi'n meddwl am fynd i Brifysgol neu Goleg i astudio Rheoli Digwyddiadau neu rywbeth tebyg? Neu ydych chi wedi newydd raddio ac yn chwilio am y cam cyntaf ar yr ysgol broffesiynol?
Mae tîm safle yr Urdd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol digwyddiadau sy'n gweithio ar draws y diwydiant ac ar draws y DU. Mae rheolwr y safle yn Gyfarwyddwr cwmni SCP Cyf.
Mae'r rôl o GYNORTHWY-YDD SAFLE ar gael i berson ifanc sydd :
- Yn frwdfrydig gyda hunan gymhelliant
- Yn byw yn lleol i safle’r Eisteddfod
- Gyda’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Gyda diddordeb mewn digwyddiadau
- Yn meddu ar sgiliau cyfrifiadurol - Word, Powerpoint ac Excel
- Yn hapus i siarad ar y ffôn
- Yn barod i fod yn rhan o dîm profiadol fydd yn hapus i ddatblygu eich profiad a gwybodaeth
Enghreifftiau o’r tasgau
- Derbynnydd yn y swyddfa ar y safle
- Rheoli'r dyraniad o allweddi, radios a.y.y.b.
- Labelu swyddfeydd, bygis, offer trwm
- Delio ag ymholiadau yn y swyddfa, yn bersonol a dros y ffôn
- Archebu / cyrchu deunyddiau fel y cyfarwyddir gan y rheolwr safle
- Cadw'r swyddfa’n daclus, golchi llestri
Dyddiadau & Oriau
- Cyfnod safle - Llun 21ain Ebrill tan ddydd Gwener 14eg Mehefin, 2013
- Eisteddfod - 27ain Mai tan ddydd Sadwrn Mehefin 1af, 2013
- Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb tan 6yh
- Penwythnosau naill ben a'r llall wythnos yr Eisteddfod - oriau i'w gadarnhau
- Rhaid i'r unigolyn fod ar gael ar gyfer y cyfnod cyfan
Treuliau – telir treuliau ar gyfer y cyfnod
Os oes gennych ddiddordeb, sgrifennwch e-bost efo manylion unrhyw brofiad a pha rinweddau y byddech yn dod i'r tîm. Anfonwch e-bost i Huw Aled – (huw@huwaled.demon.co.uk) erbyn 1 Mawrth, 2013