Adleoli pencadlys S4C i Gaerfyrddin
Categori: Newyddion

Caerfyrddin lwyddodd i ddwyn perswâd ar S4C
Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi y bydd pencadlys y sianel yn symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin.
Mae'r awdurdod wedi bod yn cyfarfod yn Llanishen drwy'r bore i drafod y penderfyniad
Fe wnaeth aelodau o'r Awdurdod, sydd â'r cyfrifoldeb dros wneud y penderfyniad, ymweld â Chaernarfon ddydd Llun a Chaerfyrddin ddydd Mawrth, er mwyn gweld be sydd gan y ddwy dref i'w gynnig.
Roedd aros yng Nghaerdydd yn opsiwn, hefyd.
Mae pobl Gwynedd a Sir Gâr wedi bod yn cyflwyno dadleuon dros symud y swyddfa, a'r swyddi fyddai ynghlwm wrth hynny, i'w hardaloedd nhw.
Pwyso a mesur
Fe gyhoeddodd S4C nôl ym mis Medi eu bod am gynnal astudiaeth ynglŷn â symud y pencadlys, yn dilyn trafodaethau gyda nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat.
Mae'r sianel wedi bod yn gweithio gyda staff o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyngor Gwynedd wrth iddyn nhw geisio pwyso a mesur manteision y ddau leoliad.
Dywedodd S4C y bydd y sianel yn parhau i gynnal "presendoldeb cryf" yn y brifddinas.
Mae'r pencadlys wedi ei leoli yn Llanishen ar hyn o bryd
Ar dir Prifysgol y Drindod Dewi Sant fydd y pencadlys newydd yn Sir Gâr.
Yn ôl Gwilym Dyfri Jones o'r brifysgol, bydd adleoli yno arwain at adfywiad ieithyddol, economaidd a diwylliannol ar draws Sir Gâr ac ymhellach hefyd".
Roedd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, yn teimlo y byddai Caernarfon wedi bod yn ddewis gwell.
Dywedodd: "Mae presenoldeb arbennig o'r diwydiannau creadigol eisoes yng Nghaernarfon, gyda'r Galeri ynghŷd â nifer o gwmnïau teledu, y cyfryngau a'r maes digidol, yn ogystal â chanolfan Pontio gwerth £45 miliwn sy'n cael ei ddatblygu ym Mangor."
Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, y prif ffactorau oedd yn cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad oedd "manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol i un o'r ardaloedd hynny mewn ffordd sy'n ddichonol i'r sianel ac yn gost-niwtral ".
AWDURDOD S4C
Mae Awdurdod S4C yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am allbwn S4C a sicrhau fod y sianel yn cael ei rheoli mewn modd cyfrifol. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad ynglŷn â'r cynnig i symud. Mae wyth aelod o'r awdurdod ar hyn o bryd:
- Huw Jones, Cadeirydd
- Dr Carol Bell
- John Davies
- Aled Eirug
- Dr Glenda Jones
- Elan Closs Stephens
- Marian Wyn Jones
- Rheon Tomos
Gwelwch Datganid y wasg gan S4C
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net