Dathlu Dydd Mawrth Crempog

09/02/2016

Categori: Bwyd, Hamdden, Newyddion

Mae’n ddydd Mawrth Crempog heddiw ac mae Lleol.cymru am ddathlu’r crempog blasus - o'r crempog tenau ffrengig i'r crempog tew Cymreig, mae digonedd o wahanol grempogau at flas pawb.

Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod o flaen Dydd Mercher Lludw, sef y diwrnod olaf cyn dechrau gŵyl y Grawys yn y calendr Cristnogol. Daw’r "Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud". Daw'r gair Cymraeg 'ynyd' o'r gair Lladin initium ('cychwyn'), sy’n cyfeirio at agosáu'r Grawys.

 

Pa un yw eich eich hoff grempog? Ai crempog gyda lemwn a siwgwr, triog neu nutella?  ne A oes gennych ffefryn gwahanol i’r arfer? Mae yna wrth gwrs grempog sawrus hefyd, gyda phobl Efrog Newydd yn cael crempog i frecwast, gyda bacwn tenau a thriog masarnen (maple). 

 

Rydym wedi dethol y negeseuon trydar at ei gilydd i danio’r archwaeth, a dyma sut y mae Cymru benbaladr yn mwynhau eu crempog.