Dathlu 10 mlynedd o lwyddiant yng Ngwobrau Gwir Flas

12/08/2015

Categori: Arian a Busnes, Bwyd, Iaith, Newyddion

Mae’r siop a’r bwyty Blas ar Fwyd o Lanrwst yn dathlu llwyddiant ysgubol yn y Gwobrau Gwir Flas wrth iddynt nodi 10 mlynedd yn olynol o lwyddiant yn y gwobrau.  

 

Cyfeirwyd at y gwobrau yma fel “Oscars” y byd bwyd, ac mae’r cynnyrch yn cael ei wobrwyo yn seiliedig ar flasu-dall, sy’n golygu bod llwyddiant yn y gystadleuaeth hon yn arwydd o’r safon uchaf.

 

Enillodd Blas ar Fwyd gyda’u Cawl Cyw Iâr a Chwrw Cymreig a’u Mwstard Nant Conwy 2 seren aur; gyda’r Cawl Tomato a Brenhinllys, Pwdin Reis, a Cawl Corbys Sbeislyd i gyd yn ennill 1 seren aur. 

 

Cydnabyddiaeth

 

Croesawodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni cynhyrchu bwyd, Deiniol ap Dafydd y llwyddiant, “Mae cydnabyddiaeth yn y gwobrau y flwyddyn yma’n destament i’r cynnyrch safonol sy’n cael ei gynhyrchu gan Blas ar Fwyd, ac yn arwydd o waith caled y tim yma”  

 

Mi gyflwynodd Blas ar Fwyd frand newydd i’r farchnad yn y flwyddyn diwethaf, gyda’r pecynnu’n cynnwys map nodweddiadol o Lanrwst. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru