Darganfod trysorau o'r oes efydd yn ardal Abertawe

09/01/2019

Categori: Addysg, Amgylchedd, Newyddion

Fe gyhoeddodd Amgueddfa Cymru fod pedwar o wrthrychau gwerthfawr sy’n dyddio o tua 900 CC i’r 17eg ganrif OC wedi eu canfod yn ddiweddar mewn safleoedd gwahanol yn ardal Abertawe.

Mae’r darganfyddiadau yn cynnwys celc o bum gwrthrych o ddiwedd yr Oes Efydd, gan gynnwys darnau o fwyell socedog, palstaf a chleddyf main, Broetsh arian ganoloesol a dwy fodrwy blaen wedi’u gwneud o aloi plwm-tun ac Modrwy arian addurnol o’r 16eg ganrif.

 

Yn ôl Adam Gwilt, Prif Guradur Archaeoleg Gynhanesyddol yn Amgueddfa Cymru, mae’n debyg i’r gwrthrychau gael eu claddu gyda’i gilydd ond bod aredig diweddar wedi eu gwasgaru.

 

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru: “Mae darganfod y broetsh mewn cysylltiad â’r ddwy fodrwy sydd â diamedr mewnol tebyg yn ddiddorol, gan fod posibilrwydd i’r eitemau gael eu colli gyda’i gilydd ar arfordir Sgeti.”

 

Darganfuwyd y fodrwy arian addurnol, sydd o’r 16eg ganrif yn ôl Dr Redknap, gan Mr Jamie Williams ym mis Awst 2016, wrth ddefnyddio ei ddatgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Penlle’r-gaer. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys carreg binc lathredig ond erbyn hyn dim ond tri darn bach sydd ar ôl, wedi’i osod mewn mastig sef math naturiol o resin.

 

Cylchrediad ffasiynau gemwaith

 

Yn ôl Dr Mark Redknap: “Mae’r broetsh a’r modrwyau yn dystiolaeth bwysig sy’n rhoi gwybodaeth i ni am gylchrediad ffasiynau gemwaith canoloesol (a diweddarach) o gwmpas Cymru.”

 

Mae’r holl wrthrychau’n cael eu caffael gan Amgueddfa Abertawe, yn dilyn prisiad annibynnol, gyda chymorth grant gan broject Hel Trysor; Hel Straeon, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

Dywedodd Emma Williams o Amgueddfa Abertawe: “Rydym yn falch iawn o allu caffael yr eitemau gwych hyn ar gyfer casgliadau Amgueddfa Abertawe gyda chymorth cronfa project Hel Trysor; Hel Straeon. Byddant yn rhoi darlun cliriach i ni o fywydau hen drigolion Abertawe a’r cylch, ac edrychwn ymlaen at eu harddangos i bawb sy’n byw yma heddiw.”