Darganfod trysorau archaeolegol yn sir Fynwy

05/10/2018

Categori: Amgylchedd, Newyddion

Cafodd trysorau archaeolegol o’r nawfed ganrif i'r bymthegfed ganrif eu canfod yn Sir Fynwy yn ddiweddar.

Canfuwyd y gwrthrychau gan aelodau o'r cyhoedd ac mae pob un yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o ddiwylliant materol ar adegau pwysig yn natblygiad Cymru.

 

Y pedwar gwrthrych yw:

* Celf o ddiwedd yr Oes Efydd o Gymuned y Grysmwnt, Sir Fynwy.

* Modrwy bys aur o'r Oesoedd Canol, Cymuned Llanbadog, Sir Fynwy (T15.07). (modrwy plaen aur)

* blaen strapen arian o'r Oesoedd Canol, Cymuned Goetre Fawr, Sir Fynwy (T16.38).

* Modrwy bys aur o'r Oesoedd Canol, Cymuned Llanbadog, Sir Fynwy (T17.03). (modrwy a charreg wyrddlas)

 

Canfuwyd y celc o ddiwedd yr Oes Efydd yng Nghymuned y Grysmwnt gan dad a mab, Nicholas a James Mensikov, yn Ebrill 2015. Mae'r celc, gaiff ei adnabod bellach fel Celc Llanddewi Ysgyryd, yn cynnwys deuddeg offeryn ac arf efydd, gan gynnwys sawl bwyell socedog, blaen gwaywffon a theilchion llafn cleddyf. Roedd dyluniad y cleddyf yn gyffredin yn nwyrain Ffrainc, ac mae'n bosib bod rhai o'r gwrthrychau wedi dod o'r tu hwnt i Brydain.

 

Canfyddiad pwysig

 

Sylweddolodd y tad a'r mab eu bod wedi gwneud canfyddiad pwysig a gadael y rhan fwyaf o'r gwrthrychau yn y ddaear, cyn cymryd y cam cyfrifol o hysbysu PAS Cymru, Cynllun Henebion Cludadwy Cymru. Galluogodd hyn i Amgueddfa Cymru gynnal cloddiad archaeolegol o'r safle mewn da bryd, gyda chymorth y canfyddwyr a pherchennog y tir. Drwy hyn, llwyddwyd i gaffael gwybodaeth werthfawr am y celc a'r modd y cafodd ei gladdu fyddai fel arall wedi cael ei golli. Claddwyd y celc ymhell o unrhyw anheddiad hysbys o'r Oes Efydd, ond mae'n agos at ffynhonnell o ddŵr allai esbonio'r lleoliad.

 

Dywedodd canfyddwr y celc, Mr Mensikov: "Dyma fi'n canfod rhai gwrthrychau ac roeddwn i'n gwybod bod mwy yn y ddaear; roeddwn i mewn cyfyng gyngor os dylswn i gario mlaen. Ond rwy'n falch i mi stopio, oherwydd roedd bod yn rhan o'r gwaith cloddio archaeolegol yn well na'r canfyddiad gwreiddiol! Roeddwn yno am ddau ddiwrnod ac roedd clywed yr archeolegwyr yn esbonio'r cyd-destun yn ychwanegu at y pleser."

 

Dywedodd perchennog y tir, Mr David Jones: "Mae'n rhyfeddol meddwl bod y tir yma'n cael ei ffermio 3,000 o flynyddoedd yn ôl, ac roedd bod yn dyst i'r gwaith cloddio archaeolegol yn dod â'r cyfan yn fyw i mi. Gallwch chi gau eich llygaid a dychmygu bywyd yn yr Oes Efydd. Mae'n gwneud i chi feddwl faint o hanes sydd wedi'i gladdu dan ein traed. Roedd yn ddiddorol clywed nad oedd pob gwrthrych wedi cael ei greu yn lleol a bod rhai yn dod o Ffrainc ac Iwerddon, sy'n awgrymu bod pobol a nwyddau wedi bod yn symud ar draws y cyfandir ers miloedd o flynyddoedd. Roeddwn i'n credu y dylai'r celc gael ei enwi ar ôl y plwyf lleol am ei fod yn taflu goleuni ar hen hanes cymuned oedd yn ffynnu, fel heddiw."

 

Canfuwyd y fodrwy bys aur o Gymuned Llanbadog gan Mr P. Wilde ym Medi 2016. Mae'r dyluniad yn anghyffredin – band aur wedi'i addurno â llinellau a phennau anifeiliaid, gyda charreg wyrddlas ar siâp lleuad gilgant wedi'i gosod, ei thorri a'i sgleinio. Fe'i dyddiwyd gan Dr Mark Redknap o Amgueddfa Cymru i droad y drydedd ganrif ar ddeg. Mae Amgueddfa Cymru wrthi'n caffael y fodrwy.

 

Strapen arian

 

Canfyddiad pwysig arall o'r Oesoedd Canol yw'r blaen strapen arian a ganfuwyd yng Nghymuned Goetre Fawr gan Mr David Harrison ym Mehefin 2016. Gydag addurn gwreiddiol ar ffurf carreg fechan wedi'i gosod a phatrwm meillion teirdalen, byddai mwy na thebyg yn gorchuddio blaen gwregys. Mae'n ganfyddiad mwy cyfarwydd mewn cloddiadau archaeolegol trefol ac fe'i dyddiwyd i'r bedwaredd ganrif ar ddeg neu'r bymthegfed ganrif.

 

Canfuwyd modrwy aur arall yng Nghymuned Llanbadog gan Mr A. Taylor yng Ngorffennaf 2016. Mae'n gylch aur plaen, gyda lle i garreg fechan sydd bellach ar goll. Fe'i dyddiwyd gan Dr Redknap o Amgueddfa Cymru i'r ddeuddegfed ganrif neu'r drydedd ganrif ar ddeg.

 

Mae tri o'r canfyddiadau – y celc, y blaen strapen arian ac un o'r modrwyau aur – yn cael eu caffael gan Amgueddfa'r Fenni. Dywedodd Rachel Rogers, Rheolwr Amgueddfeydd Sir Fynwy:

 

"Rydym yn falch iawn o gaffael y gwrthrychau pwysig yma ar gyfer ein casgliadau. Mae canfyddiadau o’r fath yn ychwanegu'n barhaus at ein dealltwriaeth o fywydau pobl yn y cwr hwn o Gymru dros y canrifoedd. Wedi eu symud i gasgliadau'r Amgueddfa byddwn yn gofalu amdanynt i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol eu mwynhau, a hynny yma yn eu milltir sgwâr."

 

Mae'r holl wrthrychau'n cael eu caffael gan amgueddfeydd gyda chymorth grant gan broject Hel Trysor; Hel Straeon, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri.