Dadorchuddio model o grwydryn sydd am lanio ar y Blaned Mawrth

25/06/2018

Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae gwyddonwyr gofod Prifysgol Aberystwyth sydd yn gweithio ar daith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd/Roscosmos ExoMars sydd i lanio ar y blaned Mawrth yn 2021 wedi adeiladu model maint llawn o’r crwydryn.

Bydd crwydryn ExoMars Aberystwyth, sydd tua maint car bychan, yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn yr Hen Goleg ddydd Gwener 29 Mehefin fel rhan o ddathliadau Wythnos Roboteg y DU y Brifysgol.

 

Adeiladwyd y model gan Stephen Fearn a Dr Matt Gunn o’r Adran Ffiseg, ac mae’n gopi rhyngweithiol maint llawn o grwydryn ExoMars a fydd yn chwilio am arwyddion o fywyd ar y blaned Mawrth.

 

Wedi ei wneud yn bennaf o bren, metal a phibellau dreiniau, bydd crwydryn ExoMars Aberystwyth yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol sy’n esbonio sut y bydd yn symud o gwmpas y blaned goch, tynnu lluniau gwyddonol a dadansoddi samplau o greigiau.

 

Adeiladwyd y crwydryn gyda chymorth Asiantaeth Ofod Prydain ac Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a bydd yn rhan o’r gwaith o hyrwyddo taith ESA/Roscosmos, ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr y gofod.

 

Mae Dr Helen Miles o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn flaenllaw wrth greu llawer o weithgareddau allanol ExoMars Aberystwyth.

 

Yn ogystal, creodd Dr Miles fersiwn rhithwir o grwydryn ExoMars sy’n cael ei defnyddio gan wyddonwyr sy’n adeiladu’r crwydryn.

 

Dywedodd Dr Miles: “Mae yma angerdd ym Mhrifysgol Aberystwyth dros wyddoniaeth ac rydym wrth ein boddau yn trafod yr holl bethau cyffrous yr ydym ynghlwm â hwy. Mae’n anodd disgrifio crwydryn ExoMars i bobl a sut y bydd yn gweithio, yn enwedig gan nad oes fersiwn cyflawn yn barod eto. Felly, er mwyn dangos i bobl beth yr ydym yn rhan ohono, rydym wedi adeiladu model rhyngweithiol maint llawn fel bod pobl yn medru gweld beth fydd y crwydryn yn ei wneud a’i weld, a sut y bydd yn archwilio’r blaned Mawrth.”

 

Dr Matt Gunn o’r Adran Ffiseg sydd yn arwain gwaith ExoMars ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Mae Dr Gunn yn aelod o dri thîm sydd yn datblygu offer ar gyfer y daith: PanCam, system o dri chamera gwyddonol ar gyfer mapio’r tirwedd yn ddigidol  ac sy’n cael ei arwain gan Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain; ISEM, sbectromedr is-goch y daith a fydd yn asesu mwynoleg targedau, sy’n cael ei arwain gan Sefydliad Ymchwil y Gofod Academi Gwyddoniaeth Rwsia; a CLUPI, camera ansawdd uchel sydd wedi’i ddylunio ar gyfer tynnu lluniau agos, ac sy’n cael ei arwain gan Sefydliad Archwilio’r Gofod y Swistir.

 

Mae’r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi adeiladu caledwedd ar gyfer crwydryn ExoMars, sy’n cynnwys palet o liwiau a ysbrydolwyd gan ffenestri gwydr o’r oesoedd canol.

 

Cynlluniwyd y palet i wrthsefyll y lefelau uchel iawn o olau uwchfioled a geir ar y blaned Mawrth, ac sy’n achosi i liwiau bylu’n gyflym. Bydd yn cael ei ddefnyddio i galibradu camerâu a systemau sbectromedr y daith er mwyn sicrhau bod lliwiau’n cael eu cofnodi’n gywir.

 

Mae tîm Aberystwyth wedi bod yn profi offerynnau prototeip y daith yn y maes a datblygu’r biblinell ar gyfer prosesu lluniau fydd cael eu hanfon yn ôl i’r Ddaear.

 

Yn ogystal, mae Dr Gunn a’i gydweithwyr wedi bod yn profi system camerâu’r daith, PanCam, mewn anialdir ar draws y byd, gan gynnwys Gwlad yr Iâ, Utah yn yr UDA ac anialwch Atacama yn Ne America.

 

Dehongli’r delweddau

 

Dywedodd Dr Gunn: “Mae'r camera yn sensitif iawn gan fod y gwyddonwyr sy'n gweithio gyda'r delweddau hyn yn chwilio am wahaniaethau cynnil iawn mewn lliw. Nid yw'r delweddau yn lluniau lliw arferol; byddant yn cael eu defnyddio er mwyn adnabod y gwahanol fathau o greigiau ar y blaned Mawrth. Mae'n hysbys bod rhai creigiau yn ffurfio mewn amgylcheddau gwlyb, felly gallai dehongli'r delweddau yn gywir gynorthwyo gwyddonwyr wrth iddynt chwilio am arwyddion posibl o fywyd.”  

 

Bydd model ExoMars Aberystwyth yn cael ei weld am y tro cyntaf yn Noson o Roboteg y Gofod ddydd Gwener 29 Mehefin o 4 tan 9 yr hwyr, digwyddiad i ddathlu gwaith arloesol Prifysgol Aberystwyth ym meysydd ffiseg y system solar a roboteg gofod.

 

Bydd y noson yn cynnwys cyflwyniad gan Sue Horne MBE, Pennaeth Archwilio’r Gofod, Asiantaeth Gofod y DU. Mynediad am ddim, tocynnau ar gael arlein yma.