Cynnydd yn lefel y môr yn peri canlyniadau cymhleth, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth

Bydd cynnydd yn lefelau'r môr yn effeithio ar arfordiroedd a chymunedau mewn ffyrdd cymhleth ac anrhagweladwy, yn ôl astudiaeth newydd fu’n archwilio cyfnod o 12,000 o flynyddoedd a welodd un ynys fawr yn dod yn gasgliad rai llai.

Aeth ymchwilwyr ati i ail-greu cynnydd yn lefel y môr er mwyn cynhyrchu mapiau’n dangos newidiadau arfordirol fesul mil o flynyddoedd a chanfod fod Ynysoedd Sill, oddi ar arfordir de-orllewin y DU, wedi deillio o un ynys unigol a bod ei ffurf bresennol o dros 140 o ynysoedd wedi digwydd lai na mil o flynyddoedd yn ôl.

 

Dan arweiniad Prifysgol Caerwysg ac mewn partneriaeth ag Uned Archeolegol Cernyw a 15 sefydliad arall gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, canfu'r astudiaeth fod newidiadau mewn arwynebedd tir a diwylliannau dynol wedi digwydd ar gyfraddau amrywiol, a’u bod yn aml yn wahanol i'r gyfradd gyffredinol o ran cynnydd yn lefel y môr.
Gyda newid yn yr hinsawdd bellach yn sbarduno cynnydd cyflym yn lefel y môr, dywed y tîm na fydd yr effeithiau bob amser mor syml â gorfodi pobl i encilio o’r arfordir.
"Pan fyddwn yn meddwl am gynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol, mae angen i ni ystyried cymhlethdod y systemau dan sylw, o ran daearyddiaeth ffisegol a'r ymateb dynol" meddai'r awdur arweiniol Dr Robert Barnett o Brifysgol Caerwysg.
"Nid cynnydd yn lefel y môr yn unig sydd i gyfrif am ba mor gyflym mae tir diflannu; mae'n dibynnu ar ddaearyddiaeth, tirffurfiau a daeareg leol benodol.
"Mae ymateb pobl yn debygol o fod yr un mor lleol. Mae’n bosib, er enghraifft, y bydd gan gymunedau resymau pwerus dros wrthod gadael lleoliad penodol."

 

Datblygodd yr ymchwilwyr gromlin newydd ar gyfer Ynysoedd Scilly dros gyfnod o 12,000 o flynyddoedd, ac ystyried hwn ochr yn ochr ag adluniadau newydd o’r dirwedd, llystyfiant a’r boblogaeth ddynol a grëwyd drwy ddefnyddio data paill a siarcol a thystiolaeth archeolegol a gasglwyd.
Mae’r ymchwil newydd yn mynd ymhellach ac yn ychwanegu at y data a gasglwyd gan Brosiect Lyonesse (2009-2013), sef astudiaeth o amgylchedd arfordirol a morol hanesyddol Ynysoedd Sili.

 

Bu ymchwilwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn cynorthwyo yn y gwaith o bennu dyddiad ar yr arwyddion o gynnydd yn lefel y môr yn y gorffennol a geir ar gyrion Ynysoedd Sili yn y tywod, y traethellau lleidiog a’r mawndiroedd sydd bellach dan ddŵr.
Dywedodd yr Athro Helen Roberts, Cyd-gyfarwyddwr Labordy Ymchwil Ymoleuedd Aberystwyth: “Buom yn casglu samplau pan oedd llanw’r gwanwyn ar ei isaf a bu’n rhaid ni weithio’n gyflym i godi’r cofnodion hyn o dirweddau a foddwyd, ond mae’r gwaith yma wedi’n caniatáu ni i weld ar ba raddfa y bu cynnydd yn lefel y môr ac y collwyd tir i’r môr.”
Mae'r canfyddiadau yma'n awgrymu bod tir yn cael ei golli i’r môr yn gyflym yn ystod cyfnod rhwng 5,000 a 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Mewn ymateb i'r cyfnod hwn o newid arfordirol, mae’n ymddangos bod pobl yn addasu i'r dirwedd newydd, yn hytrach nag yn encilio.
Erbyn yr Oes Efydd (ar ôl 4,400 o flynyddoedd yn ôl), mae'r cofnod archeolegol yn awgrymu bod gan yr ardal boblogaeth barhaol - ac yn hytrach na gadael yr ynysoedd, mae'n ymddangos y gallai gweithgarwch fod wedi dwysau’n sylweddol.
Mae'r rhesymau dros hyn yn aneglur, ond un posibilrwydd yw bod moroedd bas a pharthau llanw newydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer pysgota, casglu pysgod cregyn a hela adar.
Digwyddodd y cyfnod hwn o golli tir yn gyflym ar adeg pan oedd lefel y môr yn codi’n gymharol araf - oherwydd ar y pryd roedd tipyn o dir Scilly yn gymharol wastad ac yn agos at lefel y môr.
Canfu'r astudiaeth fod tir yn cael ei golli ar raddfa o 10,000 m2 y flwyddyn rhwng 5,000 a 4,000 o flynyddoedd yn ôl, sy'n cyfateb i stadiwm rygbi rhyngwladol mawr. Fodd bynnag, roedd tua hanner y tir hwn yn troi'n gynefinoedd rhynglanw, a allai fod wedi cynnig cynhaliaeth i gymunedau’r arfordir.

 

Dywedodd Charlie Johns o Uned Archeolegol Cernyw a chyd-gyfarwyddwr Prosiect Lyonesse: “Mae’r ymchwil newydd yma’n cadarnhau bod y cyfnod yn union cyn 4,000 o flynyddoedd yn ôl wedi gweld y golled fwyaf o dir erioed yn hanes Sili – yn gyfystyr â cholli dwy ran o dair o holl dir presennol yr ynysoedd.”
Ar ôl 4,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd y grŵp yma o ynysoedd yn parhau i ddiflannu o dan y dŵr yn sgil cynnydd yn lefelau’r môr, hyd yn oed pan oedd y cynnydd hwnnw yn gymharol isel (e.e. 1mm y flwyddyn).
"Mae'n amlwg y gall newid arfordirol cyflym ddigwydd hyd yn oed yn ystod cyfnod o gynnydd cymharol fach a graddol yn lefel y môr," meddai Dr Barnett.

 

Newidiadau ffisegol

 

"Mae'r gyfradd fyd-eang bresennol o gynnydd cymedrig yn lefel y môr (tua 3.6 mm y flwyddyn) eisoes yn uwch o lawer na'r gyfradd leol yn Ynysoedd Sili (1 i 2 mm y flwyddyn) a achosodd ad-drefnu arfordirol eang rhwng 5,000 a 4,000 o flynyddoedd yn ôl. 
"Mae'n bwysicach fyth ystyried ymatebion pobl i’r newidiadau ffisegol hyn, a allai fod yn anrhagweladwy.
"Fel y gwelir heddiw ar draws ynys-wledydd, mae arferion diwylliannol yn diffinio ymateb cymunedau arfordirol, ac mae hynny’n gallu arwain at agendâu gwahanol iawn, megis y rhaglenni adleoli arfaethedig yn Fiji a’r gwrthwynebiad i fudo oherwydd yr hinsawdd a welir yn Tavalu.
"Yn y gorffennol, gwelsom fod ad-drefnu arfordirol yn Ynysoedd Sili wedi arwain at argaeledd adnoddau newydd ar gyfer cymunedau arfordirol.
"Mae’n annhebygol efallai y bydd ad-drefnu arfordirol yn y dyfodol yn arwain at argaeledd adnoddau newydd ar raddfa sy'n gallu cynnal cymunedau cyfan.
"Beth sy’n fwy sicr, serch hynny, yw y bydd safbwyntiau cymdeithasol a diwylliannol o du poblogaethau arfordirol yn hanfodol er mwyn ymateb yn llwyddiannus i newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol."