Cyngor Gwynedd yn galw ar holl asiantaethau llety-gwyliau i gau
Categori: Amgylchedd, Newyddion

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ysgrifennu at holl asiantaethau llety gwyliau tyn y Sir i ofyn wrthynt gau yn syth.
Dywedodd y Cynghorydd Siencyn: “Rydym yn byw mewn cyfnod digynsail oherwydd Coronafeirws Cofid-19, ac er gwaetha’r canllawiau clir gan ein Llywodraethau, mae rhai asiantaethau’n dal i fod yn cynnig llety ar gael yng Ngwynedd."
“Mae fy neges i’r asiantaethau llety gwyliau yng Ngwynedd yn glir - os nad ydych wedi gweithredu eto, rwy’n erfyn arnoch i gau yn syth er mwyn rhwystro lledaeniad y feirws, lleihau ei effaith ar ymwelwyr, pobl Gwynedd a’n gwasanaethau iechyd a gofal lleol sydd eisoes o dan bwysau sylweddol.
“Bydd y cyfnod ar gau i’w adolygu ar sail cyngor y Llywodraeth.”
Atyniadau wedi cau
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cau ei holl atyniadau; mae wedi cau neu efo mynediad cyfyngedig at nifer o draethau, llwybrau, slip-ffyrdd a harbyrau. Mae pob atyniad Cadw, yr Amgueddfa Genedlaethol, Parc Cenedlaethol Eryri a holl brif atyniadau eraill yr ardal wedi eu cau. Dim ond siwrnai hanfodol ddylai gael eu gwneud i’r ardal.