Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhybuddio

08/07/2014

Categori: Arian a Busnes, Iechyd, Newyddion

Cyngor ar Bopeth Cymru

Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhybuddio bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi yn sgil y diwygiadau lles.

 

Yn ôl adroddiad ‘Un Dydd ar y Tro’ sy’n cael ei lansio heddiw gan Cyngor ar Bopeth Cymru, mae llawer o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael eu gorfodi i fyw mewn cyni yn sgil y newidiadau mwyaf i’r system les mewn mwy na chweugain mlynedd.

 

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o bob un o’r Canolfannau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru yn ogystal â gwaith ymchwil ansoddol pwrpasol a gomisiynwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru i gael darlun o brofiad go iawn pobl o’r newidiadau diweddar i fudd-daliadau.

 

Meddai Fran Targett, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:

 

“Mae’r ymchwil yn dangos bod y lleihad mewn incwm yn sgil y newidiadau i fudd-daliadau yn cael effaith enfawr ar bobl sydd ar incwm isel eisoes.

 

“Yn arbennig, mae pryder am yr effaith ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl. Os nad yw pobl yn cael y cymorth maen nhw ei angen ar y dechrau i’w helpu i ymdopi â’r newidiadau hyn i fudd-daliadau, bydd angen ymyriadau drutach maes o law yn ôl pob tebyg. Bydd hyn yn rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes o dan gryn straen.

 

“O ganlyniad i gosbau llymach ac oedi wrth wneud penderfyniadau, mae rhai pobl yn gorfod bod heb unrhyw incwm am gyfnodau hir. Mae hyn wedi ychwanegu at y caledi sy’n eu hwynebu.

 

“Gwyddom fod llawer o bobl sy’n dod i’n canolfannau ac y buom yn siarad â nhw fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn yn ei chael hi’n anodd cynnal safon dderbyniol o fyw. Maen nhw’n aml yn mynd heb yr hanfodion yn cynnwys bwyd, gwres yn eu cartrefi a dillad er mwyn gallu talu’r rhent a biliau hanfodol. Mae mwy a mwy o bobl yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd.”

 

Dywedodd sawl un a gyfrannodd at yr ymchwil fod eu sefyllfa’n gwneud iddyn nhw deimlo’n benisel ac yn llawn cywilydd, a bod y portreadau negyddol o bobl sy’n derbyn budd-daliadau yn y cyfryngau yn gwneud pethau’n waeth.

 

Er mwyn gwrthbwyso’r sylw negyddol, roedd y bobl a holwyd o’r farn y dylai’r cyfryngau wneud mwy i ddangos sut beth yw byw ar fudd-daliadau mewn gwirionedd. Maen nhw eisiau portread gonest sy’n dangos eu hymdrechion i chwilio am waith, pa mor anodd yw hi i fyw ar incwm mor fach a’r realiti ar gyfer pobl anabl, neu bobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor ac sy’n methu gweithio.

 

Cafodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei beirniadu’n hallt am y ffordd mae’n cyfathrebu â phobl sy’n hawlio budd-daliadau, yn enwedig pobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Dywedwyd bod diffyg empathi ymysg staff, nad oedden nhw’n ymdrin yn sensitif â phroblemau pobl ac nad oedden nhw’n cynnig digon o gymorth yn gyffredinol.

 

Bydd rheoli a chydgysylltu’n effeithiol sut mae asiantaethau gwahanol yng Nghymru ac asiantaethau Prydeinig allweddol, yn cynnwys DWP a’r Canolfan Byd Gwaith, yn gallu cydweithio’n well i helpu pobl sy’n cael eu heffeithio gan y diwygiadau lles yn hollbwysig er mwyn diwallu anghenion pobl yn y dyfodol.

 

Mae lleihau effaith y diwygiadau lles eisoes yn elfen allweddol o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig o ran rhoi cyfarwyddyd strategol pellach i’r prif sefydliadau yng Nghymru sy’n dod i gysylltiad â hawlwyr budd-daliadau a darpar hawlwyr budd-daliadau o ddydd i ddydd. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a’r holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Roedd canfyddiad arall yn pwysleisio pwysigrwydd cynnig cymorth cyfannol i hawlwyr, gan roi gwybodaeth am newidiadau i fudd-daliadau law yn llaw â chyngor ar fynd i’r afael ag anghenion gallu ariannol a chymorth gyda chyllidebu; cyngor ar ddyledion; cynyddu incwm; cyngor ar dai a chymorth gydag iechyd meddwl ac iechyd corfforol.

 

Meddai Jeff Cuthbert AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:

 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei bwriad i gyflwyno Credyd Cynhwysol. Nid ydym ni’n gwrthwynebu egwyddor y diwygiadau lles ond rydym ni wedi mynegi’n glir ein pryderon am raddfa a chyflymder y newid. Mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi arafu ei chynlluniau yn awgrymu ein bod ni wedi bod yn iawn i bryderu.

 

“Credwn y dylid cyflwyno diwygiadau cyfrifol ochr yn ochr â’r cymorth cywir ar gyfer y bobl sydd ei angen a’r sicrwydd bod y bobl yn y perygl mwyaf yn cael eu diogelu.”

 

Meddai Fran Targett, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:

 

“Rydym ni’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol dan gryn bwysau yn ariannol a bod hyn yn debygol o barhau am flynyddoedd lawer i ddod. Rydym ni’n cydnabod hefyd y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru ac eraill i helpu’r degau o filoedd o bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y newidiadau lles. Fodd bynnag, gyda diwygiadau mwy fyth ar y gorwel, mae angen dull gweithredu aml-asiantaeth yn fwy nag erioed er mwyn sicrhau bod hawlwyr yn teimlo y gallan nhw reoli newidiadau yn y dyfodol yn hyderus ac er mwyn atal rhagor o dlodi a chaledi.”

 

Ffynhonnell: Cyngor ar Bopeth Cymru

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net